大象传媒

Pam nad oes mwy o'n pobl ifanc ni'n gynghorwyr?

Cynghorwyr ifanc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gr诺p wedi鈥檌 sefydlu er mwyn denu mwy o gynghorwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwneud mwy i ddenu pobl i sefyll fel cynghorwyr tref a chymuned, yn 么l rhai o bobl ifanc Cymru.

Yn etholiadau lleol mis Mai, dim ond 22% o鈥檙 7,883 o seddi oedd 芒 chystadleuaeth.

Roedd 62% o鈥檙 seddi鈥檔 rhai heb gystadleuaeth 鈥 sy鈥檔 golygu na chynhaliwyd etholiad 鈥 ac ni lwyddwyd i lenwi 16% o seddi.

Mewn ymateb, mae gr诺p Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd wedi ei sefydlu i edrych ar y sefylla a cheisio'i gwella, ond yn 么l un cynghorydd ifanc, "鈥榙an ni鈥檔 bell o gyrraedd y lle delfrydol".

Ymgeisio 'heb groesi fy meddwl'

Wrth ymarfer c么r ym Mhantycelyn, doedd nifer o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth erioed wedi ystyried ymgeisio i fod ar eu cynghorau tref a chymuned.

鈥淪ai鈥檔 credu bod e erioed wedi croesi fy meddwl i i ymgeisio i fod yn gynghorydd,鈥 meddai Dafydd James, 21 oed.

鈥淢a鈥 cyngor cymuned neu tref yn rywbeth chi鈥檔 ystyried mae pobl h欧n yn ei wneud. Rhieni, Dat-cus a Mam-gus, falle.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gwenno Roberts ei bod ofn y byddai cynghorwyr eraill yn ei beirniadu

鈥淧obl h欧n sydd ar bwyllgorau a fi鈥檔 credu bod yr ofn yna bo nhw鈥檔 mynd i feirniadu beth sydd gyda fi i gynnig a鈥檙 hyn sydd gen i i鈥檞 ddweud,鈥 ategodd Gwenno Roberts, 18.

鈥淎鈥檙 ofn hefyd bo fi ddim yn deall gymaint 芒 nhw.鈥

Pobl ifanc mentrus am wneud gwahaniaeth

Mae 鈥榥a rai pobl ifanc wedi mentro, serch hynny.

Cafodd Rhodri Phillips, 25, ei ethol fel un o gynghorwyr tref Castellnewydd Emlyn ym mis Awst eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhodri Phillips yn gynghorydd 25 oed yng Nghastellnewydd Emlyn

鈥淔i yw鈥檙 ifanca鈥,鈥 meddai. 鈥淔i鈥檔 credu bod yr agosa' at fy oedran i yn eu 40au, 50au...

鈥淎mser es i mas i siarad 芒 thrigolion y dre鈥, o鈥檇d sawl un ddim yn gwybod beth i feddwl.

"Fi鈥檔 credu o鈥檇d e鈥檔 bwysig ar fy rhan i, i roi syniadau ymlaen a dangos bo fi o ddifri' am y swydd a bo fi鈥檔 mynd i drial gwneud gwahaniaeth yn y dre鈥.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Manon Thomas yn teimlo ei bod hi wedi gallu helpu i gyflwyno ambell syniad

Mae Manon Thomas, 27, wedi bod yn glerc ar Gyngor Cymuned Cenarth ers tair blynedd, ac yn gweld gwerth i鈥檞 syniadau ffres ar bwyllgor sydd dipyn yn h欧n.

鈥淔i鈥檔 credu fi 鈥榙i gallu helpu i gyflwyno ambell i syniad neu dweud 鈥榳el, chi鈥檔 gallu gwneud pethau dros e-bost',鈥 meddai.

鈥淭an yn ddiweddar, roedd pob minutes a unrhyw correspondence oedd yn dod o鈥檙 cyngor yn mynd drwy lythyr 芒 stamp yn lle dros e-bost lle ma鈥 pethau gymaint yn gynt.

"Fi鈥檔 credu bo nhw鈥檔 gweld nawr falle bod budd mewn cael cenhedlaeth ifanc mewn i ddangos pethau fel 鈥榥y.鈥

78% o seddi cynghorau cymuned heb eu llenwi

Yn etholiadau lleol Mai 2022, dim ond 38% o bobl bleidleisiodd.

Roedd 78% o seddi cynghorau cymuned a thref yn rhai heb gystadleuaeth neu'n rai heb eu llenwi.

Mewn ymateb, mae gr诺p wedi鈥檌 sefydlu gan un o weinidogion Llywodraeth Cymru, er mwyn ymchwilio i鈥檙 hyn sydd wedi achosi i gymunedau ymgysylltu鈥檔 llai 芒 rhai cynghorau cymuned a thref.

Eu bwriad yw:

  • Codi ymwybyddiaeth a gwella ymgysylltiad rhwng cymunedau a鈥檜 cynghorau cymuned;

  • Cynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy鈥檔 sefyll i gael eu hethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref.

Newid ar droed?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mirain Llwyd Roberts, sy'n aelod o gyngor tref Caernarfon, yn teimlo fod yr oes yn newid yn araf

Ond yn 么l un o gynghorwyr tref Caernarfon, mae newid ar droed.

鈥淣么l ym Mis Medi pan gaethon ni ein cyfethol, dyna鈥檙 tro cynta鈥 erioed i gyngor tre鈥 Caernarfon gael y mwyafrif o ferched,鈥 meddai Mirain Llwyd Roberts sy鈥檔 28 oed.

鈥淢ae hynny鈥檔 dangos falle fod yr oes yn newid yn ara鈥 iawn, mwy o bobl ifanc yn cymryd y rolau 'ma, mwy o ferched yn barod i wneud o, ond yn sicr, 鈥榙an ni鈥檔 bell o gyrraedd y lle delfrydol fel petai.鈥

Diffyg gwybodaeth yn dal pobl ifanc 'n么l

Yn 么l rhai o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, addysg yw鈥檙 ateb i newid y darlun "nodweddiadol" o gynghorau tref a chymuned.

鈥淚 fi鈥檔 bersonol, dwi ddim yn gwybod beth sy鈥檔 mynd ymlaen,鈥 meddai William Bebb, 18 oed.

鈥溾楽wn i ddim yn gwybod sut i fynd o gwmpas ymuno a 鈥榮wn i ddim yn gwybod beth i wneud chwaith," ychwanegodd.

"Ella 鈥榮a rhoi fwy o wybodaeth i bobl ifanc yn 'neud iddyn nhw eisiau bod ac eisiau cymryd rhan mewn cynghorau lleol a mewn democratiaeth leol.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥溾楽wn i ddim yn gwybod sut i fynd o gwmpas ymuno," meddai William Bebb

Dywedodd Fflur Wyn Davies, 20 oed: 鈥淢a鈥 nhw鈥檔 siarad am planning, o ran codi tai ac ati, s鈥檇im syniad gyda fi o gwbl am bethe fel 'ny.

"Falle dylai鈥檙 cyngor neu鈥檙 senedd wneud fwy o bethau i ddenu fwy o bobl i ymuno 芒鈥檙 cyngor.鈥

Mae'r Gr诺p Gorchwyl a Gorffen wedi cyhoeddi arolwg i ddeall sut y mae pobl ifanc yn teimlo am ddemocratiaeth leol ac am gynghorau cymuned a thref.

Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 27 Tachwedd.