大象传媒

Rhybuddion am wyntoedd cryfion yn sgil Storm Lilian

RhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd fore Gwener mewn grym ar gyfer arfordir y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd y bydd gwyntoedd cryfion yn taro rhannau o'r gogledd ddydd Iau a dydd Gwener, gyda hyrddiau o hyd at 80mya yn bosib mewn mannau.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn a ddaeth i rym am 01:00.

Daeth i ben am 09:00 ac roedd yn berthnasol i Sir Conwy, Gwynedd ac Ynys M么n.

Bydd rhybudd melyn arall mewn grym ddydd Gwener, a hynny ar gyfer arfordir y gogledd o Ynys M么n i'r ffin 芒 Lloegr.

Daw yn sgil Storm Lilian, ac mae'r rhybudd hwnnw mewn grym o 05:00 tan 11:00 ddydd Gwener.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai'r tywydd garw effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyflenwadau trydan, yn ogystal ag achosi rhywfaint o drafferthion i deithwyr ar y ffyrdd.

Nos Fercher cafodd cyfyngiadau cyflymder eu gosod ar Bont Britannia rhwng Ynys M么n a'r tir mawr oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Mae gig New Order a The Charlatans, oedd i fod i gael ei chynnal ym Mae Caerdydd nos Iau, wedi cael ei chanslo wrth i'r trefnwyr ragweld gwyntoedd cryfion yno hefyd.

Pynciau cysylltiedig