Pryder ym Mhort Talbot cyn i'r undebau a Tata gwrdd
- Cyhoeddwyd
"Ni鈥檔 siarad am 3,000 o swyddi ond rydyn ni鈥檔 s么n am 3,000 o bobl o鈥檙 dre' a鈥檙 cyffiniau.
"Ma鈥檔 nhw鈥檔 dweud am bob swydd yn y gwaith dur mae swydd arall yn y dre yma - busnesau lleol, siopau lleol ac ati.
"Mi fyddai鈥檔 drychineb - dwi methu dychmygu beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd yma."
Mae Margaret Jones, 80, sydd wedi byw a鈥檌 magu yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, yn bryderus am y dyfodol.
Mae gan gwmni Tata, sy鈥檔 berchen ar y ffatri, gynlluniau i ddatgarboneiddio鈥檙 safle ac fe allai hyn arwain at golli tua 3,000 o swyddi.
Mae disgwyl y bydd swyddogion undeb yn cwrdd 芒 phenaethiaid Tata i drafod y sefyllfa wrth i鈥檙 ansicrwydd barhau.
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023
"Ni wedi bod yn dioddef dros y blynyddoedd gyda鈥檙 llygredd o鈥檙 gwaith," meddai Margaret, "ond rydyn ni wedi bod yn barod i wneud hynny oherwydd y swyddi sydd yno.
鈥淲rth gwrs ein bod ni mo'yn i鈥檔 gwlad fod yn wyrddach ond rydyn ni braidd yn sinigaidd yngl欧n 芒 beth sydd yn mynd mlaen.
"Mae rhai ohonyn ni yn meddwl mai esgus yw hyn i gau鈥檙 gwaith yn gyfan gwbl, byddai hwnna鈥檔 drychineb fawr achos does dim swyddi eraill."
Ychwanegodd bod ei theulu wedi gweithio yno erioed a鈥檌 fod yn anodd dychmygu鈥檙 dref heb y gwaith dur.
Mae'r banc bwyd yn brysur ar hyn o bryd, meddai Margaret, ond mae'n rhagweld y gallai fod yn fwy prysur byth.
"Ry'n ni鈥檔 pryderu鈥檔 fawr iawn am y dyfodol," meddai.
Er mwyn cael gwared ar garbon o鈥檙 broses creu dur, mae Tata eisiau cau dwy ffwrnais sy鈥檔 defnyddio glo a gosod ffwrnes bwa trydan yn eu lle.
Yn 么l y cwmni, os yw Tata'n derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol gallai'r ffwrnais newydd sy'n cael ei phweru gan drydan fod yn weithredol o fewn tair blynedd.
Ar hyn o byd mae tua 4,000 o weithwyr dur yn cael eu cyflogi yn y ffatri ond gyda鈥檙 newidiadau posib byddai鈥檙 gweithlu鈥檔 cael ei chwtogi.
'Dur o'r ansawdd gorau'
Yn wreiddiol o Bontrhydyfen mae Brian Jones bellach yn byw ym Maglan ac mae ei fab wedi gweithio ar y safle am 15 mlynedd.
Gobaith Brian a鈥檌 fab yw y bydd y cwmni'n cau un ffwrnes yn unig gan barhau i ddefnyddio'r llall.
"Os maen nhw'n cau'r ail ffwrnes mewn rhyw 10 mlynedd, er enghraifft, bydd llawer o'r gweithwyr wedi ymddeol erbyn hynny," meddai Brian.
"Y rheswm mae'r gwaith dur ym Mhort Talbot wedi bod mor llwyddiannus yw achos mae鈥檙 ffwrnes yn creu digon o wres i allu creu dur o'r ansawdd gorau - y math o dur maen nhw'n defnyddio yn y diwydiant ceir a'r dur mae'r fyddin yn defnyddio i adeiladu tanciau.鈥
Dywedodd Brian bod pawb ym Mhort Talbot yn perthyn i rywun sy鈥檔 gweithio yn y gwaith dur neu鈥檔 adnabod rhywun sy鈥檔 gweithio yna, felly byddai鈥檙 sefyllfa yn effeithio鈥檙 gymuned gyfan.
"Does dim lot arall ym Mhort Talbot, os mae pobl yn colli eu swyddi," meddai.
"Mae prisiau tai yn mynd lawr, mae busnesau yn mynd i ddioddef hefyd, mae am effeithio ar bawb yn y dre."
'Chwarae'n galed' i godi calonnau gweithwyr
Mewn ymgais i arbed swyddi mae undebau gweithwyr dur wedi defnyddio cwmni ymgynghorol annibynnol i lunio cynllun amgen ar gyfer y safle ac mi fydd swyddogion yn cyfarfod 芒 phenaethiaid Tata yn Llundain.
Eisoes mae Llywodraeth y DU wedi addo talu 拢500m i Tata i gadw safle Port Talbot ar agor ac i ddatgarboneiddio鈥檙 gwaith yno.
- Cyhoeddwyd3 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
Mae Efan Ellis yn gapten t卯m rygbi Tata Steel, un o nifer o glybiau chwaraeon yn enw鈥檙 cwmni, sydd hefyd yn cynnwys t卯m p锚l-droed a chriced.
Dywedodd yr athro cynradd bod y cefnogwyr a鈥檙 chwaraewyr un ai鈥檔 gweithio yn Tata neu鈥檔 gyn-weithwyr, gan eu disgrifio nhw fel "teulu agos".
"Dros yr wythnosau diwethaf ry'n ni wedi dangos ein cefnogaeth ni tuag at y gweithwyr dur trwy chwarae'n galed er mwyn gwneud yn si诺r bod dal gyda ni wynebau hapus a phawb yn bositif," meddai Efan.
"Gobeithio wedyn bod hynny'n dangos bod ni hefyd yn brwydro dros weithwyr y gwaith dur.
"Rydyn ni wedi bod wrthi dros y blynyddoedd yn chwarae i Tata Steel ac yn lwcus i chwarae a'r bathodyn 'na ar ein crys ni, a mae'n bwysig bod ni'n chwarae drostyn nhw hefyd a nid jyst dros ein gilydd.
"Rydyn ni鈥檔 ffrindiau oddi wrth y cae a rydyn ni jyst yn croesi bysedd bydd pethau yn edrych yn llawer hapusach iddyn nhw yn y dyfodol a'u teuluoedd nhw."