大象传媒

Pum munud gyda... Iwan John

Iwan JohnFfynhonnell y llun, Iwan John
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iwan John

  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon mae Cymru Fyw am dreulio pum munud yng nghwmni鈥檙 actor a鈥檙 comed茂wr, Iwan John.

Mae鈥檔 adnabyddus i filoedd o blant fel Twm Tisian, Jac Rysel a鈥檙 anfarwol Eddie Butler. Mae hefyd wedi bod yn wyneb cyson ar S4C ar raglenni fel Hyd Y Pwrs.

Beth wnaeth dy ysgogi di i fentro i fyd perfformio a chomedi?

Ro鈥檔 i eisiau bod yn blismon pan o鈥檔 i鈥檔 blentyn. 鈥楽e hynny 鈥榙i bod yn well i fi nag actio achos bydde fe 鈥榙i talu鈥檔 well a bydden i鈥檔 dod lan i riteiro erbyn hyn. Nes i berfformio sgetsys ar gyfer gig comedi鈥檙 Urdd nol yn 1986 yn y Golden Lion, Tydrath (Trefdraeth) gyda 鈥榤rawd, Rhys. Do鈥檔 i ddim yn gallu neud unrhywbeth arall! Naeth Euros Lewis helpu ac fe wnes i berfformio mewn oper芒u roc ar gyfer y Steddfod. Roedd Gareth Iwan a Geraint Halket yn help fawr 鈥榝测诲. Yna, es i mlaen i Goleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar 么l gadael Ysgol Preseli a joio mas draw achos nes i ddim rili gwrando tra ro鈥檔 i 鈥榥a.

Beth oedd dy swydd actio proffesiynol cyntaf?

Ro鈥檔 i鈥檔 rhan o鈥檙 Brodyr Williams gyda fy mrodyr Rhys a Sion. Ro鈥檔 i wrthi鈥檔 'sgrifennu ac yn perfformio sgetsys gyda nhw pan o鈥檔 i鈥檔 coleg. Wnaethon ni recordio sgetsys ar gyfer rhaglen o鈥檙 enw Wadlo ar ol i fi raddio. Daeth yr ysbrydoliaeth o鈥檙 pethau roedd yn digwydd ar y pryd yng nghefn gwlad.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iwan fel y cymeriad Eddie Butler

Sut ddechreuaist ti ymddangos ar raglenni plant?

Ar 么l Wadlo es i ar daith ar un o pantos Dafydd Hywel a ges i fy ngwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen o鈥檙 enw Troi a Throi ac yna gweithio i Cred TV. Roedd Cred TV yn raglen crefyddol ond ges i鈥檙 cyfle i chware pob math o gymeriadau gwahanol o fewn y sgetsys. Wedyn es i mlaen i neud Noc Noc 鈥榙a HTV.

Ti鈥檔 adnabyddus am chwarae cymeriadau unigryw iawn. O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y cymeriadau yma?

Dwi鈥檔 ffan mowr o Steve Martin, Rik Mayall ac Ade Edmondson. Roedd y Young Ones ar y teledu pan o鈥檔 i鈥檔 tyfu lan ac ro鈥檔 i hefyd yn dwli ar Bottom. Doedd y cymeriadau ddim yn becso am ddim ac ro鈥檔 nhw鈥檔 cheeky 鈥榝测诲.

Pan o鈥檔 i ar Noc Noc ges i鈥檙 syniad i greu cymeriad Eddie Butler, sef bwtler oedd yn agor drws tai y plant ro鈥檔 i鈥檔 ymweld 'da nhw. Roedd hi o gwmpas cyfnod Calan Gaeaf felly ro鈥檔 i eisiau iddo fe i fod yn rhyw fath o Zombie. Dyna pam mae e鈥檔 llwyd. So fe鈥檔 becso ac mae鈥檔 gallu gweud unrhywbeth n么l i unrhyw un.

Roedd cymeriad Heddwyn Gwrych ap Rych yn bwrw Gwenllian y cyflwynydd eitha lot achos doedd e ddim yn becso chwaith. Allen i ddim neud hynna dyddie 'ma.

Roedd Twm Tisian yn gr锚t achos doedd dim rhaid i fi ddysgu geirie!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iwan yn chwarae rhan Twm Tisian yn y rhaglen Sbidiri

Rwyt ti wedi troi dy law at weithio efo pypedau ac wedi ymddangos ar raglenni fel Rhacsyn, Yn Yr Ardd, Tref a Slyrp o Slot Sadwrn. Sut brofiad yw pypedi o鈥檌 chymharu ag actio?

Dwi鈥檔 lico pypedau achos ti鈥檔 gallu gadael i鈥檙 cymeriad neud pethe dwl. Ti鈥檔 gorfod perfformio trwy dy law yn ogystal 芒 dy lais ond ti鈥檔 gallu dod bant 'da dweud a neud pethau fel pyped!

O ble ddaeth y syniad am raglen Hyd Y Pwrs a phwy oedd dy hoff gymeriad?

Daethon ni at ein gilydd i drial creu comedi. Unwaith eto yr ysbrydoliaeth oedd pethe oedd yn digwydd o鈥檔 cwmpas ni ar y pryd. Roedd e鈥檔 lot o sbort. Nes i joio neud Merched y Festri. Ro鈥檔 i鈥檔 corpso cymaint yn enwedig wrth weld gr诺p o ddynion canol oed wedi gwisgo fel hen fenywod ac yn trial bod yn seriys.

Hen fenywod ardal Crymych o鈥檔 nhw sydd wedi鈥檔 gadel ni erbyn hyn. Mam-gu oedd un ohonyn nhw!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o'r rhaglen Hyd y pwrs

Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Dwi wrthi鈥檔 gwneud rhaglen i blant o鈥檙 enw Dreigiau Cadi sef rhaglen am ddwy ddraig (pypedau) sy鈥檔 byw mewn gorsaf dr锚n yn ardal Tywyn. Dwi hefyd yn gweithio ar gynllun Talent Mewn Tafarn. Mae鈥檔 bartneriaeth rhwng Cyngor y Celfyddydau, Yr Eisteddfod a鈥檙 Egin. Y nod yw denu cynulleidfa newydd allan i dafarndai cymunedol ac i roi cyfle i bobl neud stand up. Ry鈥檔 ni wedi cynnal nosweithiau comedi yn Y Vale, Dyffryn Aeron, Tafarn Sinc, Sir Benfro, Ty鈥檔 Llan yn Llandwrog a鈥檙 Plu yn Llanystumdwy. Mae鈥檙 prosiect yn gorffen fis Rhagfyr yma. Ar wah芒n i hynny, gawn ni weld beth a ddaw.

Ffynhonnell y llun, Talent mewn tafarn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster ar gyfer un o nosweithiau Talent mewn tafarn.