大象传媒

Cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad

B4265Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhan o'r B4265 ar gau am rai oriau wedi'r digwyddiad brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 51 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Maes Awyr Caerdydd a Llanilltud Fawr am tua 13:10 ar 30 Mawrth wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a beic modur.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Barrie Taylor o Ben-y-bont ar Ogwr yn y fan a'r lle.

Mae teulu Mr Taylor wedi diolch i'r rhai hynny wnaeth geisio rhoi cymorth iddo wedi'r digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru wedi galw ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd 芒 lluniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig