Cyhuddo dyn o droseddau gyrru wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn 32 oed yn ymddangos ger Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun wedi'i gyhuddo o nifer o droseddau gyrru ar 么l i ddynes 60 oed gael ei tharo gan gar yn y brifddinas.
Am 01:00 fore Sul, 3 Mawrth, fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i Stryd Minny yn ardal Cathays wedi gwrthdrawiad rhwng car 芒 cherddwraig.
Mae'r ddynes yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae Marcus Frankie Falzon, 32 oed o'r Rhath, wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau gyrru gan gynnwys gyrru heb drwydded, gyrru heb yswiriant, ceisio pasio car arall mewn ffordd ymosodol a methu 芒 stopio ar 么l damwain.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol a methu 芒 rhoi gwybod am ddamwain ffordd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth