大象传媒

Buddugoliaeth hwyr i Gymru yn erbyn Queensland Reds

Rio Dyer yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr asgellwr Rio Dyer yn sgorio cais i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae t卯m rygbi Cymru wedi ennill am y tro cyntaf mewn 10 g锚m, ar 么l curo Queensland Reds mewn g锚m gyfeillgar ddramatig yn Brisbane o 36-35.

Ac mae鈥檙 fuddugoliaeth - y gyntaf ers Tachwedd 2023 i d卯m Warren Gatland - yn dod 芒鈥檜 taith haf i Awstralia i ben ar nodyn cadarnhaol, wedi鈥檙 siom o golli鈥檙 ddwy g锚m brawf yn erbyn Y Wallabies.

Ond cyn y gic gyntaf, fe ddaeth y newyddion bod y capten Cory Hill wedi tynnu 鈥榥么l o鈥檙 g锚m 鈥渁m resymau personol鈥.

Cafodd y penderfyniad i'w enwi yn gapten ei feirniadu gan nifer, oherwydd ei gysylltiad 芒 digwyddiad 鈥榥么l yn 2021 ble cafodd difrod ei achosi i gartref menyw yn Rhondda Cynon Taf gan griw o ddynion.

Dafydd Jenkins wnaeth ddechrau yn yr ail-reng yn ei le, y mewnwr Gareth Davies gafodd ei wneud yn gapten, gyda鈥檙 bachwr Dewi Lake yn cael ei gynnwys ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Cymru mewn 10 g锚m, a鈥檙 gyntaf ers Tachwedd 2023

Gyda phum munud yn unig o鈥檙 g锚m wedi chwarae, fe sgoriodd y prop pen tynn Archie Griffin - gafodd ei eni'n Sydney - cais cynta'r g锚m.

Fe fethodd y maswr Sam Costelow 芒鈥檙 trosiad, cyn i鈥檙 t卯m cartref gael eu cais cyntaf nhw, gan fynd ar y blaen o 7-5 wedi chwarter awr.

Yna, yn ei g锚m broffesiynol gyntaf yn chwarae rygbi鈥檙 undeb, fe groesodd Regan Grace, gan arddangos ei gyflymdra a鈥檌 sgiliau wrth dirio i鈥檙 crysau cochion, er mewn du roedden nhw鈥檔 chwarae heddiw.

Gydag ond 21 munud ar y cloc, daeth trydydd cais i Gymru, gyda鈥檙 asgellwr Rio Dyer y tro hwn yn croesi.

Taro 鈥榥么l eto wnaeth y t卯m cartref, ond roedd 鈥榥a fwy o gyffro i ddod, a sgarmes symudol gryf Cymru鈥檔 gweld y blaenasgellwr Christ Tshiunza yn sgorio eu pedwerydd cais o鈥檙 g锚m, gan fynd mewn i鈥檙 egwyl ar y blaen o 24 pwynt i 14.

Ail hanner nerfus

Sgoriodd canolwr Cymru Nick Tompkins bumed cais i'r ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner, cyn i fachwr Queensland Reds, Richie Asiata dirio am hatric o geisiau i鈥檞 d卯m.

Daeth pedwerydd cais y Reds wedi awr o chwarae, a thriphwynt yn unig yn gwahanu'r ddau d卯m.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hi'n g锚m hynod gyffrous gyda'r ddau d卯m yn chwarae rygbi ymosodol

Ond roedd y pwysau鈥檔 cynyddu ar Gatland a鈥檌 d卯m yn dilyn pumed cais i鈥檙 Reds.

Wedi cyfnod o fygythiad ymosodol gan Gymru ar eu llinell nhw鈥檜 hunain, llwyddodd y t卯m cartref鈥 i ddwyn y b锚l a gwrthymosod cyn llwyddo 芒 throsgais i鈥檞 rhoi nhw bedwar pwynt yn glir gyda llai na deng munud yn weddill i鈥檞 chwarae.

Gyda'r cloc yn agos谩u at yr 80, fe sgoriodd yr eilydd fewnwr Kieran Hardy i roi buddugoliaeth nerfus o bwynt i Gymru, o 36 i 35.

A鈥檙 fuddugoliaeth yn un yr oedd Cymru, a Warren Gatland, ei hangen yn ddirfawr.

Roedd y rhyddhad yn amlwg wrth iddyn nhw orffen tymor hir o rygbi, gan ddychwelyd adref wedi ennill. O鈥檙 diwedd.

Gatland: 'Anghywir' i benodi Hill yn gapten

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ei fod wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth ddewis Cory Hill fel capten ar gyfer y g锚m.

Wedi'r fuddugoliaeth ddydd Gwener, dywedodd Gatland ei fod wedi dewis Hill oherwydd "y gwaith y mae wedi ei wneud allan fan hyn. Penderfyniad ar sail rygbi oedd hwn".

"Mae wedi bod yn hollol ardderchog ers iddo fod allan yma o ran ei arweiniad, ei brofiad a sut mae wedi helpu'r chwaraewyr iau," meddai.

Er hyn, aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "cyfaddef na ddylwn i fod wedi ei roi yn y sefyllfa yna" gan ychwanegu nad oedd wedi ystyried yr ymateb negyddol posib.

Dywedodd Gatland fod y "ffeithiau yn dangos nad oedd wedi ei arestio na'i gyhuddo. Mae wedi cydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gatland yn dweud ei bod hi'n bosib y gallai Hill gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2027

Dywedodd Gatland nad oedd Prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, na'r Prif Gyfarwyddwr Rygbi, Nigel Walker, wedi bod yn rhan o unrhyw benderfyniadau rygbi'r wythnos hon.

Fe wnaeth Hill gydnabod ei fod yn difaru'r digwyddiad yn 2021 gan ymddiheuro'n gyhoeddus mewn cynhadledd i'r wasg wedi iddo gael ei enwi'n gapten.

Roedd Gatland o'r farn bod "nifer o athletwyr wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg" a'u bod bellach n么l yn chwarae.

"Ro' ni'n meddwl ei fod yn gr锚t ddydd Mercher, fod ei ymddiheuriad yn dod o'r galon ynghylch rhywbeth oedd wedi digwydd tair blynedd yn 么l."