大象传媒

Oes o garchar i ddyn am lofruddio ei ffrind Ddydd Calan

Conall EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Conall Evans yn "enaid llawen twymgalon oedd yn byw bywyd i'r eithaf", yn 么l ei chwaer

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 30 oed wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio ei ffrind Ddydd Calan eleni.

Bydd yn rhaid i Ashley Davies, o Pentre yn Rhondda Cynon Taf, dreulio o leiaf 26 mlynedd o dan glo am ladd Conall Evans, oedd yn 30 oed ac yn byw yn yr un pentref.

Wedi achos a barodd am 10 diwrnod, fe wnaeth y rheithgor hefyd ei gael yn euog o fod ag arf llafnog yn ei feddiant.

Cafwyd hyd i Mr Evans wedi ei anafu mewn maes parcio tu allan i Ysbyty Cwm Rhondda, Tonypandy.

Dywedodd ei deulu, oedd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar gyfer y gwrandawiad dedfrydu, bod ei farwolaeth wedi "datod" eu bywydau.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y barnwr wrth ddedfrydu Ashley Davies nad oedd wedi amlygu "unrhyw edifeirwch" wrth roi tystiolaeth yn y llys

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd ei chwaer, Elise Evans, bod calonnau'r teulu wedi torri a'u bod yn dioddef "poen sy'n ymddangos yn amhosib i'w oddef".

Dywedodd bod yr atgof o adnabod ei gorff "yn hunllef nosweithiol", bod codi o'r gwely bob bore "yn teimlo fel brwydr enfawr" ac nad oedd hi wedi gallu gweithio am fisoedd wedi'r llofruddiaeth.

Nid jest fy mrawd oedd e - fe oedd fy ffrind gorau," meddai, gan ei ddisgrifio fel "enaid llawen twymgalon oedd yn byw bywyd i'r eithaf".

Yn ei dagrau, fe ddywedodd bod y teulu wedi mynychu'r achos er mwyn "cau'r bennod" ond "ni fydd unrhyw gosb fyth yn dadwneud y niwed".

Roedd gweld cyn-gyfaill ei brawd yn y doc am y tro cyntaf, meddai, wedi gwneud iddi "deimlo'n s芒l yn gorfforol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafwyd hyd i Conall Evans wedi ei anafu mewn maes parcio tu allan i Ysbyty Cwm Rhondda

Roedd yr erlyniad wedi dadlau o blaid dedfryd hir yn sgil tystiolaeth sylweddol o ragfwriad, natur cyhoeddus lleoliad y digwyddiad a chamau i gael gwared 芒'r dystiolaeth.

Yn 么l bargyfreithiwr yr amddiffyn roedd Davies "yn berson gwahanol iawn" ers bod yn y ddalfa i'r person oedd yn yfed ac yn cymryd cyffuriau adeg y llofruddiaeth, a dywedodd bod yna "elfen o bryfocio" gan Mr Evans.

Dywedodd y Barnwr Daniel Williams bod "ffrae bitw" wedi gwaethygu pan fynnodd Davies fod Mr Evans yn mynd i'w gartref am ffeit.

Roedd "yn derbyn y dystiolaeth bod Conall Evans yn gynddeiriog" ac yn "sicr ei fod wedi mynd ag arf gydag e", ond fe wrthododd honiad Davies ei fod ond eisiau bygwth Mr Evans.

Dywedodd wrth y diffynnydd: "Welais i chi'n rhoi tystiolaeth a welais i ddim tystiolaeth o edifeirwch.

"Chi a chi yn unig sy'n gyfrifol am farwolaeth drasig Conall."

Pynciau cysylltiedig