Teyrngedau lu i'r 'dihafal' ac 'arbennig' Dewi Pws
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r diddanwr, actor, cerddor, cyflwynydd a'r tynnwr coes Dewi 'Pws' Morris.
Fe fydd yn cael ei gofio yn bennaf am arloesi yn y byd pop Cymraeg ac am actio mewn cyfresi teledu adnabyddus fel Pobol y Cwm.
Roedd hefyd yn fardd, awdur a chyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.
Bu farw yn 76 oed wedi cyfnod byr o salwch.
- Cyhoeddwyd22 Awst
- Cyhoeddwyd22 Awst
Roedd y darlledwr a'r awdur Lyn Ebenezer yn was priodas i Dewi Pws.
Mae'n cofio dod ar ei draws am y tro cyntaf "fel 'sa hi'n heddi", yn Eisteddfod yr Urdd 1970 yn Llanidloes, "ac o'r eiliad gwrddes i ag e fe fuon ni'n ffrindie".
Roedd Dewi Pws "yn byw ac yn bod yn t欧 ni" yn Aberystwyth yn y 1970au, meddai, ac "yn hala'r lle'n wallgo, yn enwedig Jac y ci [oedd yn] ca'l nervous breakdown bob tro o'dd e'n gweld Dewi!"
Mae yna "gannoedd" o straeon tebyg amdano, meddai ar raglen Dros Ginio, ag yntau'n "arian byw" o gymeriad.
"Pan o'dd Dewi'n dawel, amser 'ny o'dd e ar ei fwya' peryglus - o'ch chi'n gw'bod bod e'n cynllwynio rhywbeth!"
Dywedodd Lyn Ebenezer ei fod yn "teimlo fel 'swn i 'di ca'l ergyd ar 'y mhen 芒 gordd" yn dilyn marwolaeth ei ffrind.
"Mae'r gair unigryw yn cael ei gamddefnyddio yn aml [ond] o'dd Dewi'n sbesial.
"Amhosib", meddai, yw croniclo popeth a wnaeth ond "o'dd e'n defnyddio'r dalent ddoniol i 'neu pethe difrifol".
Roedd materion fel y Gymraeg a'r argyfwng tai yn destun pryder mawr iddo a "dim ond pobl o'dd yn 'nabod e'n dda o'dd yn sylweddoli bod y doniolwch yn cuddio tipyn o dristwch".
'Dim geirie i ddisgrifio'r loes'
Dewi Pws oedd un o sylfaenwyr y band roc chwyldroadol Edward H Dafis, sy'n cael eu hystyried fel y supergroup Cymraeg cyntaf.
Dywedodd prif leisydd y gr诺p, a ffrind oes iddo, Cleif Harpwood wrth 大象传媒 Cymru ei fod dan deimlad llwyr o'i golli, a'i fod "fel brawd" iddo.
Mewn datganiad dywedodd: "Does 'da fi ddim y geirie i ddisgrifio'r loes a deimlaf heddi.
"Dewi, fy ffrind annwyl a thriw, roeddet yn fod arbennig iawn."
Un arall oedd yn ei adnabod yn dda oedd y canwr a'r gwleidydd Dafydd Iwan.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru ei bod yn "anodd iawn cloriannu bywyd rhywun fel Dewi Pws, achos o'dd o mor amryddawn a mor unigryw".
"Welwn ni ddim Dewi Pws arall," meddai.
Ond ychwanegodd, y tu 么l i'r comedi, ei fod wirioneddol o ddifrif am ddyfodol y wlad a'r iaith.
"Yn y b么n mi roedd o'n ddyn dwys, a doedd rhywun ddim yn gweld yr ochr yna iddo fo yn aml, ond mi roedd o yn un oedd yn poeni," meddai Dafydd Iwan.
"Roedd o'n poeni'n wirioneddol am ddyfodol y Gymraeg a dyfodol Cymru, ond bod o'n cuddio tu 么l i'r facade o'r comed茂wr a'r clown.
"Fe fydda i yn ei gofio fel cyfaill triw ac annwyl iawn."
Fe gafodd ei ddisgrifio gan yr actor a'r canwr Ryland Teifi fel "arloeswr comedi, cyfansoddwr caneuon meistrolgar, diddanwr, actor ond yn fwy na dim ffrind i bawb ddaeth i鈥檞 gwmni.
"Cwsg yn dawel y dihafal Dewi Pws."
Ychwanegodd: "Pan ddaeth i fyw i Geredigion, fe drawsnewidiodd ysbryd yr ardal.
"Fel nwy hudolus, rodd Dewi yn bobman. Ei ganu, ei straeon a鈥檌 ffordd ddihafal o fod yn gyfaill i bawb. Braint oedd rhannu llwyfan gydag e. Braint mwy oedd ei ystyried yn ffrind."
Un arall sy'n dweud iddo golli "ffrind annwyl a llawn hwyl a miri" yw'r canwr Arfon Wyn.
Dywedodd mai Dewi Pws oedd yn "un a'n 'swadodd i ganu yn Gymraeg ac a dynnodd fy nghoes am flynyddoedd".
Dywedodd Rhuanedd Richards, cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, fod Dewi Pws yn "ffigwr poblogaidd, direidus, dawnus a chwbl eiconig oedd yn ganolog i raglenni yn y ddwy iaith".
"Mae鈥檔 anodd meddwl amdano heb wenu; ei j么cs a鈥檌 hiwmor. Ond roedd hefyd yn gymeriad didwyll ac egwyddorol; un o fil.
"Wrth ddiolch am ei gyfraniad hynod i鈥檙 byd cerddorol a chreadigol yng Nghymru, o Bobol y Cwm i Grand Slam, cofiwn hefyd am Rhiannon, ei wraig a鈥檌 holl ffrindiau ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf 芒 hwy ar golli un mor annwyl.鈥
'Tynnwr coes o fri'
Dywedodd Llenyddiaeth Cymru mai "gyda sioc a thristwch" y daethon nhw i wybod "am farwolaeth annhymig Dewi Pws y bore 'ma".
Roedd y corff sy'n hybu'r sector wedi gweithio'n agos 芒'r awdur a'r llenor yn ystod ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru yn 2010-11.
"Roedd yn dynnwr coes o fri ac yn cyfareddu鈥檙 plant gyda鈥檌 egni a鈥檌 hiwmor," dywedodd llefarydd.
"Ond roedd hefyd yn dod 芒 thynerwch ac anwyldeb i鈥檙 gweithdai, ac yn llwyddo i annog y plant i ysgrifennu am y dwys yn ogystal 芒鈥檙 digrif."
Gan ddisgrifio鈥檌 farwolaeth fel "colled fawr i Gymru" dywedodd Mudiad Meithrin fod "Dewi Pws yn ffrind mawr i鈥檙 Mudiad ac yn barod iawn ei gymwynas a鈥檌 hwyl".
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Roedd Dewi Pws yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd hefyd.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith: "Diolch Dewi am ddangos i ni trwy dy ganeuon a thrwy dy fywyd mai brwydr o lawenydd yw'r frwydr dros y Gymraeg.
"Nid baich, nid dyletswydd ond cydweithio llawn hwyl dros y Gymru Rydd a Chymraeg newydd."
Am flynyddoedd, Tre-saith yng Ngheredigion oedd cartref y brodor o Dre-boeth ger Abertawe, ond fe symudodd gyda'i wraig i Ben Ll欧n yn sgil sefyllfa'r Gymraeg yn y de-orllewin.
Gan ddweud bod y newyddion am ei farwolaeth yn dorcalonnus, dywedodd AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ei bod "mor falch o wedi cael eu 'nabod ers iddyn nhw symud i Nefyn".
Ychwanegodd: "Mae Dewi a Rhiannon wedi dod 芒 llond trol o hapusrwydd i bob cymuned y buont yn byw ynddyn nhw."
Yn 么l menter gymunedol Ty'n Llan, yn Llandwrog ger Caernarfon, roedd Dewi Pws "yn gefnogol iawn wrth i ni brynu Ty鈥檔 Llan ac ar 么l i ni agor. Cwsg yn dawel."