Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Buddugoliaeth gyntaf i Craig Bellamy fel rheolwr Cymru
Fe enillodd Cymru o 2-1 oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y rheolwr newydd, Craig Bellamy - a hynny yn ei ail g锚m wrth y llyw.
Roedd goliau cynnar gan Kieffer Moore a Harry Wilson yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i'r ymwelwyr.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn yr ail safle yng ngr诺p 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd.
Roedd pum newid i'r t卯m a ddechreuodd y g锚m ddi-sgor yn erbyn Twrci nos Wener, gyda Bellamy yn newid y si芒p yn ogystal.
Roedd y golwr Karl Darlow yn ennill ei gap cyntaf, tra bod Lewis Koumas ac Ollie Cooper yn dechrau g锚m i Gymru am y tro cyntaf.
Nid oedd rhaid aros yn hir am y g么l gyntaf wrth i Kieffer Moore roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi cwta 30 eiliad.
Fe adlamodd y b锚l at draed yr ymosodwr profiadol yng nghanol y cwrt cosbi wedi i amddiffynwyr Montenegro fethu a'i chlirio, ac fe ergydiodd Moore yn gywir i gornel isa'r rhwyd.
Roedd hi'n 2-0 llai na dau funud yn ddiweddarach, wrth i Harry Wilson daro'r b锚l yn wych i gornel ucha'r rhwyd o 25 llath gyda'i droed chwith.
Ond yn y glaw mawr yn ninas Nik拧i膰, fe dyfodd y t卯m cartref i mewn i'r g锚m wedi'r dechreuad siomedig.
Fe ddylai Montenegro fod wedi taro n么l wedi gwrth ymosodiad cyflym, ond fe wnaeth Nikola Krstovic wastraffu'r cyfle.
Darodd Stevan Jovetic y trawst gydag ergyd arbennig o du mewn i'w hanner ei hun yn dilyn pas lac gan Ethan Ampadu.
Cyn yr egwyl, roedd angen arbediad gwych gan Karl Darlow a gwaith amddiffynnol gwych gan y capten Ben Davies i atal y t卯m cartref rhag sgorio.
Gyda鈥檙 glaw yn dal i arllwys, y t卯m cartref gafodd y gorau o funudau agoriadol yr ail hanner gan ennill sawl cic gornel. Ond llwyddodd y Cymry i atal unrhyw ymdrechion o werth.
Cafodd Nico Williams a Wilson gyfleoedd i ymestyn mantais Cymru ond roedd eu hymdrechion yn siomedig.
Moore gafodd y cyfle gorau i sgorio'r drydedd, a hynny wedi 65 munud, wrth iddo daro'r bel dros y trawst o chwe llath gyda cheg y g么l yn llydan agored.
gydag 20 munud yn weddill, fe wnaeth y t卯m cartref daro'r postyn wrth i ergyd bwerus Jovovic o bellter hedfan heibio Darlow.
Wrth i Montenegro barhau i bwyso, gwnaeth Darlow arbediad campus o beniad Jovetic.
Ond doedd dim y gallai鈥檙 golwr wneud wedi 72 munud, serch hynny, wrth i Driton Camaj sgorio i鈥檙 t卯m cartref yn dilyn gwrthymosodiad sydyn.
Rhoddodd y g么l hyder newydd i Montenegro a doedd hi ddim yn syndod gweld Aaron Ramsey yn dod i鈥檙 cae fel eilydd i gynnig mwy o arweiniad i鈥檙 Cymry.
Er y pwysau, prin oedd y cyfleoedd ym munudau olaf y g锚m gydag amddiffyn Cymru yn sefyll yn gadarn.
Wedi pum munud o amser ychwanegol daeth y chwiban olaf gyda Chymru鈥檔 sicrhau gyntaf dan reolaeth Craig Bellamy.
Bydd gem nesaf t卯m dynion Cymru gartref yn erbyn Gwlad yr I芒 ar 11 Hydref.