Gobaith busnesau Pontypridd o elwa ar yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i economi leol Rhondda Cynon Taf elwa o 拢16 miliwn yn sgil yr Eisteddfod Genedlaethol sy鈥檔 ymweld 芒鈥檙 ardal o fewn yr wythnos.
Gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi rhoi 拢275,000 tuag at yr 诺yl, mae disgwyl i bob 拢1 sydd wedi ei wario gan y cyngor gynhyrchu 拢60 i'r economi leol.
Ond mae rhai perchnogion busnes yn pryderu faint o eisteddfodwyr fydd yn gwario eu harian yn nhref Pontypridd a鈥檙 cyffiniau mewn gwirionedd.
Er bod nifer yn dweud bod llawer o negyddiaeth wedi bod yn yr ardal ynghylch yr Eisteddfod, maen nhw'n edrych ymlaen at groesawu pobl o bob cwr o Gymru i'w tref.
Dywedodd Sian John, sy'n berchennog ar dri o fusnesau'r stryd fawr ym Mhontypridd - gwesty Blueberry, bwyty Alfreds a Crazy Croissant Cafe - ei bod "wir yn edrych ymlaen at yr eisteddfod" er gwaethaf "sylwadau negyddol yn yr ardal".
"O ran y sector lletygarwch, ry'n ni wedi cael ein taro'n galed ac wedi bod trwy'r cyfan, o'r llifogydd ym Mhontypridd i'r pandemig."
Dywedodd fod y gwesty am fod yn brysur ond ei bod "wir yn gobeithio y bydd pobl yn dod i weld y siopau annibynnol".
"Rydym wedi addurno, ymestyn ein horiau agor, ychwanegu mwy o staff, felly dwi wir yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn cael effaith gadarnhaol arnom ni... a gobeithio rhoi Pontypridd ar y map."
Siop yn y dref a stondin ar y maes
Mae un busnes yn nhref Pontypridd wedi penderfynu cael stondin ar y maes.
Dywedodd Emma Jamal, sylfaenydd cwmni KooKoo Madame yn y dref: "Ers i mi gael gwybod bod yr Eisteddfod yn dod yma, dwi wedi bod yn hynod o gyffrous.
"Gwnaethom ni gofrestru ein diddordeb i gael stondin ar y maes a dwi鈥檔 meddwl mai ni yw'r unig fusnes o鈥檙 dref i wneud hynny. Ry'n ni wedi bod yn cynllunio ers chwe mis."
Er bod Ms Jamal yn edrych ymlaen, dywedodd ei bod "yn nerfus" o ran sut yn union y bydd yr Eisteddfod yn effeithio ar y dref gan ychwanegu bod "llwyth o negyddiaeth" wedi bod yn yr ardal.
Aeth ymlaen i ddweud y bydd yn "her yn sicr" ond ei bod yn "wych" i'r Gymraeg.
"I bobl fel fi sydd ddim yn defnyddio'r Gymraeg yn aml, bydd yn dda cael fy rhoi mewn sefyllfa lle dwi'n gorfod siarad Cymraeg."
Mae disgwyl i economi鈥檙 ardal elwa o 拢16 miliwn yn sgil dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wedi bron i dair blynedd o gynllunio, mae llai na wythnos i fynd hyd nes y bydd giatiau Parc Ynys Angharad ar agor.
Mae disgwyl i dros 160,000 o ymwelwyr ymweld 芒 Rhondda Cynon Taf a Phontypridd yn ystod yr 诺yl.
Er mwyn sicrhau ei bod hi'n bosib i ariannu'r eisteddfod, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyfrannu cyfanswm o 拢275,000 tuag at y digwyddiad.
Felly i bob 拢1 y mae'r Cyngor wedi ei chyfrannu, mae disgwyl y bydd yn cynhyrchu tua 拢60 i'r economi leol.
Mae rhai o weithwyr y farchnad yn gobeithio y bydd pobl yn ymweld 芒'u stondinau yno yn ystod yr wythnos.
Dywedodd Theresa Connor, perchennog 'The Welsh Cake Shop' yn y farchnad: "Dwi鈥檔 meddwl ei fod yn gr锚t.
"Bydd yn cael effaith gadarnhaol ac yn helpu鈥檙 economi leol a dwi鈥檔 meddwl fod hwnna鈥檔 rhywbeth da, ac mae unrhyw beth sy鈥檔 dod 芒 busnes i Bontypridd yn beth da. Bring it on - bydd yn gr锚t yma!"
Mae Gwydion, Millie ac Aled hefyd yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn eu hardal leol.
"Mae'n gr锚t i gael yr Eisteddfod yn lleol, ma' real hwyl a naws yr Eisteddfod yn dod i鈥檙 dref," meddai Gwydion.
"Ma' pawb yn edrych ymlaen, mae'r parc yn edrych yn dda, a ni reit yn y dref hefyd felly all pobl ddefnyddio'r cyfleusterau yn y dref."
Aeth ymlaen i s么n am bwysigrwydd yr Eisteddfod i'r Gymraeg yn yr ardal.
"Mae'n bwysig iawn. Ma' lot o Gymraeg ym Mhontypridd, yn enwedig y plant. Ma' cael yr 诺yl Gymreig yma yn helpu i gynnal a thyfu'r Gymraeg yn yr ardal."
Bydd y tri yn cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod gyda ch么r cymunedol Ysgol Garth Olwg.