大象传媒

Arestio dwy wedi achos o drywanu honedig yn Sir Benfro

Precelly PlaceFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Precelly Place fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ddynes wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn achos honedig o drywanu yn Sir Benfro.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Precelly Place, Aberdaugleddau tua 06:30 fore Sul.

Cafodd un dyn driniaeth yn yr ysbyty am anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.

Parhaodd swyddogion ar y safle drwy'r dydd.

Mae'r ddwy ddynes, yn 24 a 34 oed, wedi eu rhyddhau ar fechn茂aeth wrth i'r heddlu ymchwilio.

Pynciau cysylltiedig