'Pam na glywon ni am Annie Cwrt Mawr yn yr ysgol?'
- Cyhoeddwyd
Wrth i berfformiad o'r ddrama Annie Cwrt Mawr ddod i'w phentref genedigol yng Ngheredigion dywed nifer o drigolion Llangeitho bod angen dysgu am hanes lleol yn ein hysgolion gan nad oedden nhw'n gwybod dim am Annie Hughes Griffiths tan yn ddiweddar.
Yn fuan ar 么l y Rhyfel Byd Cyntaf trefnodd menywod Cymru ddeiseb heddwch yn gofyn i ferched America berswadio yr Unol Daleithiau i ymuno 芒 Chynghrair y Cenhedloedd.
Annie Hughes Griffiths fu'n arwain yr ymgyrch honno ac roedd yn un o'r pedair a aeth i America i gyflwyno'r gist dderw a oedd yn cynnwys y ddeiseb saith milltir o hyd.
Mae Annie wedi ei chladdu ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho ac hyd nes i'r ddeiseb ddod i sylw'r cyhoedd doedd neb yn lleol yn gwybod fawr ddim amdani.
Mae Daniel Thomas yn un o blant yr ardal ac yn flaenor yng Nghapel Gwynfil, Llangeitho.
"Rwy' wedi bod yn y fynwent 'ma gannoedd o weithiau - mae aelodau o fy nheulu wedi'u claddu yma ac fel plant fe gawson ni wybod llawer iawn am y diwygiwr Daniel Rowland sydd a'i gofgolofn o flaen y capel - ond tan yn ddiweddar roeddwn i'n gwybod fawr ddim am Annie Hughes Griffiths," meddai wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Mae'n dangos yr angen i ddysgu hanes lleol yn ein hysgolion. Pam na glywon ni amdani?
"Ni wedi colli mas a gallai cymaint fod wedi cael ei wneud pan o'n i'n blant ac ar 么l hynny ond yn bendant ni'n 'neud lan am hynny nawr.
"Mae'n hollol anhygoel beth na'th hi gyflawni. Dylen ni gyd fod yn prowd iawn ohoni mewn cyfnod lle oedd hi'n anodd iawn i fenywod gystadlu yn erbyn dynion."
Annie Hughes Griffiths, a aned ar 5 Ebrill 1873, oedd y chweched o ddeg o blant Robert Joseph Davies (1839-1892) a'i wraig Frances.
Bu Annie yn weithgar iawn gyda Chynghrair y Cenhedloedd (rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig) ac erbyn 1923, hi oedd Llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd.
I nodi canmlwyddiant cyflwyno'r ddeiseb yn Washington mae cwmni Mewn Cymeriad wedi bod yn cyflwyno drama am ei bywyd mewn lleoliadau ar draws Cymru.
"Yr uchafbwynt fi'n credu yw bod y ddrama yn dod i'r neuadd yn Llangeitho," ychwanegodd Daniel Thomas.
"Ni'n edrych ymlaen i weld y perfformiad o Annie Cwrt Mawr.
"Mae'n bosib bod hi wedi defnyddio'r neuadd pan yn groten fach. Mae'n brofiad pwysig i'r pentref ac yn un emosiynol."
"Ni'n falch iawn bod y cyflwyniad yn dod i Langeitho," ychwanegodd Sarah Evans sydd wedi byw yn y pentref gydol ei hoes.
"Doeddwn i chwaith ddim yn gwybod dim am ei chyfraniad anhygoel - ond dwi i fel eraill yn falch iawn o'r hyn wnaeth hi a'i bod wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i gri merched Cymru am heddwch byd."
'Mae'n dod adref'
Mae Mandi Morse wedi byw yn Llangeitho ers chwarter canrif.
"Mae'n rhaid i fi gyfaddef - do'n i ddim yn gwybod dim amdani hi ac mae'n gas gen i ddweud hynny ond nid fi yw'r unig un," meddai.
"Mae 'na gymaint o bobl yn yr ardal ac yng Nghymru yn gyffredinol nad oedd yn gwybod dim tan yn ddiweddar am yr hanes ac mae e mor bwysig.
"Mae'r ardal hon yn rhan o wead diwylliant Cymru - mae 'da ni lawysgrifau Cwrt Mawr lle o'dd Annie yn byw - lawr yr hewl mae fferm Parcrhydderch lle comisiynwyd Llyfr Gwyn Rhydderch a dy'n ni ddim yn gwybod fawr ddim am y pethe 'ma.
"Mae rhywbeth eitha' emosiynol am y ffaith bod y perfformiad o Annie Cwrt Mawr yn Llangeitho nos Iau - mae'n dod adre'."
Ar hyn o bryd mae'r ddeiseb, oedd yn apelio鈥檔 daer am heddwch byd ac a gafodd ei chyflwyno i鈥檙 T欧 Gwyn yn 1924, yn cael ei digido gan Academi Heddwch Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Daniel Thomas a Sarah Evans yn hynod o falch bod llofnodion merched eu teuluoedd ymhlith y 390,296 a gasglwyd.
"O'n i mor falch o weld llofnod fy mam-gu - Gwladys Herbert, Glynderwen, Llangeitho ymhlith y miloedd a menywod eraill o'r pentref," meddai Daniel Thomas.
Fe gollodd hen fam-gu Sarah Evans ei mab Dafydd Jones yng Nghoedwig Mametz yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Roedd gweld llofnod fy hen fam-gu - Margaret Jane Jones - ar y ddeiseb a hithau wedi colli mab yn y Rhyfel Byd Cynta' yn emosiynol iawn," ychwanegodd Sarah.
"Fi'n credu y bydd perfformiad heno o Annie Cwrt Mawr yn dod 芒'r cyfan yn fyw - ac yn cyflwyno i ni hanes colledig camp Annie Hughes Griffiths."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023