Trwsio cloch eglwys a dorrodd yn 1880
- Cyhoeddwyd
Gyda'r Nadolig yn nes谩u, mae clywed clychau yn atseinio yn rhywbeth cyffredin ar hyd a lled pentrefi a threfi Cymru.
Ond ers 1880, mae cloch eglwys Llanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion wedi bod yn canu tiwn anarferol iawn.
Yn ystod priodas ym 1880, fe darodd rhywun y gloch gyda morthwyl sled, gan ddifrodi rhannau ohoni.
Ers hynny, mae trigolion Llanfihangel wedi arfer clywed sain wahanol yn cael ei chanu.
Bellach, mae'r gloch a gafodd ei chreu yn 1686 wedi'i thrwsio, diolch i waith caled trigolion yr ardal.
Trysorydd yr Eglwys, Rhian Davies oedd ar raglen Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru yn adrodd hanes y gloch.
鈥淢ae tipyn o hanes i鈥檙 gloch.
"Cafodd ei neud draw yn Limerick yn 1686. Daeth e draw ar gwch i Aberystwyth ac wedyn ar gart a cheffyl i Lanfihangel.
"Fe gafodd hi ei roi ar ben y t诺r ac yna mae hi wedi bod yn hongian 50 metr i fyny鈥檙 t诺r.
"Yn 1880 roedd rhywun yn dathlu priodas ac yn teimlo nad oedd y gloch yn gwneud digon o s诺n, felly fe wnaethon nhw daro鈥檙 gloch gyda morthwyl sledge ac yn anffodus fe wnaeth dau ddarn ohono fe gwympo bant a nath y gloch byth ganu鈥檔 iawn ers hynny," meddai.
Fe dyfodd Rhian fyny yn Abermagwr ger Llanfihangel, ac mae hi wastad wedi bod yn mynychu'r eglwys. Mae ganddi gof plentyn o'r gloch yn cael ei chwarae, a s诺n anarferol iawn yn dod ohoni.
Ond, mae degawdau wedi pasio ers i'r gloch gael ei chlywed diwethaf yn yr ardal.
鈥淩oedd y gloch yn cael ei chanu tan tua鈥檙 1980au, ond wedyn, oherwydd cyflwr y coed oedd yn dal y gloch, doedd e ddim yn saff i鈥檞 chanu hi rhagor," meddai.
'Cynnal y Cardi'
Yn 2018 fe ddaeth criw o鈥檙 eglwys a thrigolion Llanfihangel a鈥檙 cyffiniau at ei gilydd a gwneud cais i'r Loteri Treftadaeth Genedlaethol.
Roedd dyfodol yr eglwys yn flaenllaw yn eu hymgais i geisio trin tamprwydd, a d诺r oedd yn llifo i lawr y waliau yn ystod y gaeaf.
Mi fuon nhw yn ffodus i gael grant i wneud gwaith i geisio atal y d诺r, hefyd i ail adeiladu鈥檙 grisiau oedd yn arwain i fyny鈥檙 twr.
Bu鈥檙 gloch yn eistedd yn yr Eglwys tan eleni pan gaethon nhw grant arall, sef Cynnal y Cardi.
Dyma'r grant oedd yn galluogi'r criw i anfon y gloch draw i Soundweld yn Northampton i drwsio'r darnau oedd wedi torri yn 么l at ei gilydd.
Cafodd y gloch ei chlywed am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd nos Wener.
Y tro hwn roedd hi'n swnio'n gywir a dyw s诺n tebyg heb atseinio dros Lanfihangel ers y diwrnod priodas hwnnw yn 1880.
Dywedodd Helen: 鈥淢ae鈥檙 gloch nawr yn 么l yn yr Eglwys ac mae鈥檔 cael ei ail hongian yr wythnos hon a byddwn yn ail ganu鈥檙 gloch nos Wener.
鈥淢ae'n pwyso tua trydydd rhan o dunnell dwi鈥檔 meddwl ac mae hi鈥檔 mesur 35 modfedd mewn diamedr ac mae hi鈥檔 dipyn o broses ei chael hi lan a lawr."
"Roedd Merched Bro鈥檙 Mwyn a disgyblion Ysgol Llanfihangel yma'n canu ac mae croeso cynnes i bawb ddod lawr i weld a chlywed y gloch ar ei newydd wedd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai