大象传媒

Ap锚l newydd er mwyn adnabod corff Cronfa Dd诺r Claerwen

Cronfa Dd诺r ClaerwenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd corff dyn ei ganfod yng Nghronfa Dd诺r Claerwen dydd Gwener, 18 Hydref

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio eto am wybodaeth er mwyn cadarnhau enw person a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn cronfa dd诺r ym Mhowys.

Fe gysylltodd aelod o'r cyhoedd 芒'r llu ar 么l gweld corff yng Nghronfa Dd诺r Claerwen - cronfa fwyaf Cwm Elan - ychydig cyn 08:30 ddydd Gwener 18 Hydref.

Ar y pryd fe ddywedodd yr heddlu eu bod yn credu mai corff dyn oedd e.

Mae archwiliad post-mortem wedi cadarnhau hynny erbyn hyn, ac mae'r llu wedi cyhoeddi rhagor o fanylion er mwyn ceisio adnabod y corff.

Mae'r archwiliad yn awgrymu bod y dyn rhwng 30 a 60 oed a thua chwe troedfedd o daldra, ac roedd yn gwisgo siwt wlyb 'ZONE3 Agile'.

'Wedi marw ers rhwng tair a deuddeg wythnos'

Gan ddiolch i bawb sydd wedi cynnig gwybodaeth hyd yn hyn, dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting bod yna "amcangyfrif y gallai fod wedi marw ers rhwng tair a deuddeg wythnos".

"Os ydych yn meddwl y gallai'r wybodaeth newydd fod yn berthnasol i rywun rydych yn ei nabod, siaradwch gyda'r heddlu os gwelwch yn dda.

"Hoffwn ni glywed o hyd gan unrhyw un sydd wedi ymweld 芒 chronfa dd诺r Claerwen, neu'r ardal o'i chwmpas, ers dechrau Gorffennaf, sydd heb siarad 芒'r heddlu eto ynghylch unrhyw eiddo wedi eu gadael fel bagiau, dillad, esgidiau neu unrhyw beth arall oedd yn sefyll allan.

"Hoffwn ni glywed ganddoch - boed eich bod wedi gweld rhywbeth a dynnodd eich sylw a'i adael yna, neu wedi ei symud o'r ardal."

Pynciau cysylltiedig