大象传媒

Dyn 33 wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes yn Y Rhyl

Rhyl
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i d欧 ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30 nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed wedi鈥檌 gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed yn Y Rhyl.

Bu farw鈥檙 ddynes, na sydd wedi'i henwi, ar 么l iddi gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Nos Iau cafodd Heddlu'r Gogledd Cymru eu galw i d欧 ar Ffordd Cefndy yn y dre.

Mae disgwyl i Dean Mark Albert Mears, o Rodfa Bodelwyddan, Bae Cinmel, Sir Conwy, ymddangos ger bron ynadon yn Llandudno ddydd Llun.

Cafodd ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae dynes 25 oed, sydd wedi鈥檌 harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi鈥檌 rhyddhau ar fechn茂aeth amodol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott fod yr ymchwiliad yn parhau ac fe anogodd "unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth ac na sydd wedi cysylltu eisoes i wneud hynny".

Pynciau cysylltiedig