大象传媒

Hedfan i Ffrainc mewn awyren 'ysgafnach na phac Cymru'

Disgrifiad,

Cefnogwyr Cymru'n hedfan eu hunain allan i Ffrainc

  • Cyhoeddwyd

Byddai hedfan allan i Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd - a hynny mewn awyren sy'n pwyso llai na phac Cymru - yn hunllef i rai.

Ond i Dave Pitman a Gavin Johns, roedd y ffaith bod g锚m gr诺p olaf Cymru mor agos i'w chyrraedd yn gyfle oedd yn rhy gyffrous i'w fethu.

Fe laniodd y ddau yn Rennes ddydd Gwener, cyn treulio'r penwythnos yn Nantes yn mwynhau awyrgylch y gystadleuaeth.

Ac nid nhw yw'r unig gefnogwyr sydd wedi dod o hyd i ffyrdd anarferol o deithio - mae Cymro arall wedi treulio dros fis yn seiclo 1,600 o filltiroedd rhwng y gemau.

'Fe benderfynon ni bydden ni'n ceisio hedfan'

Roedd Dave, o Dredelerch yng Nghaerdydd, a Gavin o Feisgyn yn Rhondda Cynon Taf, eisoes wedi teithio i'r g锚m yn Lyon - a hynny mewn modd mwy traddodiadol, gyda chwmni teithio.

"Gan fod ni wedi cael canlyniad mor wych yn erbyn Awstralia, fe benderfynon ni bydden ni'n ceisio hedfan [i'r g锚m gr诺p olaf] os oedd y tywydd yn dda," meddai Dave.

Mae'r ddau wedi hedfan i Ffrainc sawl gwaith yn y gorffennol, gan gynnwys i ras fodur enwog Le Mans yn gynharach eleni.

Ffynhonnell y llun, Gavin Johns
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dave a Gavin yn mwynhau'r olygfa uwchben y cymylau

"O berspectif hedfan yn gyffredinol, mae Ffrainc yn le gwych i wneud," meddai Gavin.

"Mae croesi'r Sianel yn gallu bod yn brofiad ychydig yn nerfus achos dim ond un injan sydd ar yr awyren, felly mae'n rhaid cymryd llawer o gamau diogelwch, ond mae hefyd yn dipyn o antur.

"Unwaith 'dyn ni'n cyrraedd mae'r rhyddhad a'r teimlad o fod wedi ei gyflawni yn ffantastig.

"Ond o ddifri', fydden ni ddim yn gwneud unrhyw beth peryglus - os yw'r tywydd yn wael, neu rhywbeth yn bod gyda'r awyren, 'dyn ni'n troi 'n么l."

Fe adawodd y ddau o Sain Tathan ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, cyn dychwelyd ddydd Sul.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y ddau gyfle i fwynhau yn ardal y cefnogwyr yn Nantes

Ond mae Dave yn cyfaddef nad yw'n siwrne i rywun sydd 芒 stumog wan, yn enwedig o ystyried pa mor ysgafn yw'r awyren.

"Mae'n hawyren ni'n pwyso 880kg gyda thanc llawn, popeth ynddi, felly mae'r tywydd yn gallu chwarae rhan - roedden ni'n bownsio rownd [ar y ffordd allan]," meddai.

"Dwi'n meddwl bod pac Cymru'n pwyso 912kg, felly 'dyn ni'n ysgafn iawn [o'i gymharu]. Ond mae'r profiad yn un arbennig."

Ac mae Gavin yn "dawel hyderus" fod posibilrwydd y bydd yr awyren yn dychwelyd i Ffrainc cyn diwedd y gystadleuaeth.

"Os 'dyn ni'n curo Ariannin, mae 'na llain lanio neis yn Paris mae Dave wedi llygadu, felly byddwn ni yn y rownd gynderfynol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Gavin Johns
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yr awyren a gludodd y ddau i Ffrainc yn pwyso llai na phac blaenwyr Cymru

Tra bod Dave a Gavin yn hedfan yn uchel, mae cefnogwyr eraill wedi bod yn cadw'u traed - neu'n hytrach, eu holwynion - ar y ddaear.

Fe wnaeth Mike Kelly adael Sir Benfro bum wythnos yn 么l ar ei feic, ac mae wedi bod yn cwblhau ei Tour de France ei hun wrth fynd o ddinas i ddinas yn gwylio gemau Cymru.

"Llynedd ges i ddiagnosis o epilepsi, felly roedd rhaid i fi roi'r gorau i yrru," meddai.

"Felly nes i benderfynu, pam ddim gwneud e ar y beic yn lle?

Ffynhonnell y llun, Mike Kelly
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe seiclodd Mike o un gem i'r llall

"Roedd e'n syniad gwell y llynedd nag oedd e erbyn i fi ddechrau!

"Ond mae wedi bod yn hwyl dda."

Oni bai am salwch bwyd ar y ffordd i Bordeaux - a gorfod parcio'r beic yn Avignon er mwyn cyrraedd y g锚m yn Nice mewn pryd - mae Mike wedi llwyddo i gwblhau'r daith o un lleoliad i'r llall.

Mae'n golygu ei fod wedi seiclo tua 1,600 milltir hyd yma, neu dros dri chwarter y cyfanswm bu'n rhaid i feicwyr proffesiynol ei wneud ar y Tour de France eleni.

Mae Mike yn disgrifio ei hun fel seiclwr 'penwythnos' digon cyffredin, felly pan oedd pethau'n mynd yn anodd roedd ei feddwl yn troi at yr elusen y mae'n codi arian tuag ati.

Ffynhonnell y llun, Mike Kelly

Roedd wedi cymryd rhan mewn her feicio i godi arian i hosbis plant T欧 Hafan yn y gorffennol, a bellach wedi codi bron i 拢1,000 fel rhan o'i her bresennol.

"Roeddwn i wastad yn mynd i seiclo beth bynnag, ond nes i feddwl man a man i fi wneud y mwyaf o'r peth wrth geisio codi tamed bach mwy o arian i T欧 Hafan oherwydd y gwaith da maen nhw'n gwneud," meddai.

"Maen nhw'n helpu teuluoedd drwy'r cyfnodau mwyaf anodd, ac yn gwneud gwaith arbennig.

"Nes i gyfarfod tad oedd wedi cael help ganddyn nhw, oedd wedi colli ei fab, ac roedd e'n dorcalonnus.

"Aethon ni lawr i'r hosbis ar ddiwrnod cyntaf y daith ac mae e just yn taro chi. Felly ro'n i eisiau gwneud mwy drostyn nhw.

"Dyna oedd yn cadw fi'n pedalu pan o'n i'n meddwl am ddal y tr锚n, ac yn gwneud i fi gario 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, Mike Kelly

Mae'r bobl leol a chefn gwlad hardd Ffrainc hefyd wedi bod yn hwb ychwanegol iddo yn ystod ei daith.

"Does gen i ddim lot o Ffrangeg, a doedden nhw ddim yn siarad Saesneg - na Chymraeg chwaith!" meddai.

"Ond mae pawb wedi bod yn hyfryd, ac wedi bod yn garedig iawn i mi ar y ffordd.

"Nes i hefyd fynd dros y mynyddoedd, am ddeuddydd nes i ddim gweld unrhyw un, ac roedd y bywyd gwyllt yn wefreiddiol.

"Nes i weld dyfrgwn, afancod - un bore, ro'n i wrth y canal ac roedd cimwch yr afon ar y llwybr, yn chwifio'i grafangau ata i.

"10 metr ymlaen, un arall, ac am tua milltir roedd cimwch yr afon yr holl ffordd, yn chwifio'u crafangau yn flin.

Ffynhonnell y llun, Mike Kelly
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mike ei gyfarch gan gimychiaid afon ar ei daith

"Roedd hwnna'n od iawn. Ond mae wedi bod yn hyfryd, a chefn gwlad mor brydferth."

Er ei fod yn disgrifio'r profiad fel "pum wythnos gorau fy mywyd", bydd Mike yn dychwelyd adref yr wythnos hon a does ganddo ddim cynlluniau i ddychwelyd.

"Fe wnaeth y mab Sam ofyn os o'n i am, ond i fod yn onest, dwi'n meddwl byddai fy ngwraig Kate wedi gadael os oeddwn i'n mynd allan eto," meddai gan chwerthin.

"Dwi'n poeni am fy iechyd hefyd - dwi just wedi bwyta croissants a kebabs am bum wythnos, felly dwi wir angen ychydig o lysiau nawr. Rhaid mynd gartref!"