Aurora borealis yn goleuo'r nos ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yr awyr yn olygfa anhygoel mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru nos Sul, wrth i oleuadau'r gogledd oleuo'r nos.
Mae goleuadau'r gogledd, neu aurora borealis, yn ymddangos fel ardaloedd mawr o liwiau fel gwyrdd, pinc, melyn, glas a phorffor yn yr awyr i gyfeiriad y gogledd.
Yn 么l cyflwynydd tywydd 大象传媒 Cymru, Sabrina Lee, roedden nhw i'w gweld yn fwy deheuol nos Sul o ganlyniad i storm geomagnetic gref.
Mae gronynnau o'r haul yn gweithio gyda'r nwyon yn yr atmosffer i greu'r lliwiau anhygoel.
Gallwch weld y golygfeydd o sawl ardal ledled Cymru isod