Ymwelwyr iechyd: Fy merch wedi 'disgyn drwy'r rhwyd'
- Cyhoeddwyd
Mae mamau yng Ngheredigion yn dweud bod eu plant wedi "llithro drwy'r rhwyd" gydag apwyntiadau ymwelydd iechyd.
Yn fam gyntaf, bu'n rhaid i Ceri Evans ffonio am help ar 么l chwe mis, tra na welodd merch Manon Rhys-Jones ymwelydd iechyd tan ei bod yn ddwy a hanner.
Mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd - sydd i fod i gael cyswllt rheolaidd gyda rhieni a'u plant - dan bwysau ar draws y wlad yn 么l elusen Barnardo's Cymru.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn wynebu heriau recriwtio ond bod pethau'n gwella.
Mae Ceri Evans, 33 o Aberystwyth, yn fam i Anna sy'n flwydd a hanner.
Mae'n dweud i'w merch "ddisgyn drwy'r rhwyd" wrth iddi aros am fisoedd am ymwelydd iechyd i ddod i'w gweld.
"Ti鈥檔 teimlo 鈥榗hydig bach ar ben dy hun... yn enwedig pan ti鈥檔 fam tro cynta', a ti鈥檔 disgwyl gweld ymwelwyr iechyd a does 鈥榥a neb yn dod.
"Pan 鈥榥es i gysylltu efo鈥檙 bwrdd iechyd tua mis Hydref, mis Tachwedd llynedd, o鈥檔 i鈥檓 'di gweld neb ers oedd Anna tua pythefnos oed.
"'Nes i s么n 'ydy hi fod i gael llaeth allan o bicer, botel?' 'Dw i鈥檓 yn gw'bod be' 'dw i fod i 'neud'.
"Pan ges i rywun yn dod allan ac oedd hi鈥檔 wych - 鈥榥aeth hi gyfadde' yn anffodus o鈥檇d Anna wedi disgyn drwy鈥檙 rhwyd."
Fe gafodd Manon Rhys-Jones brofiad tebyg ond ddaeth neb i'w gweld hi a'i thrydydd plentyn, Awen, tan yr oedd hi'n ddyflwydd a hanner.
Fe rannodd neges ar y cyfryngau cymdeithasol am ei phrofiad a chael sawl neges gan famau yng Ngheredigion oedd wedi cael profiadau tebyg.
"Oedd 'na famau o ardaloedd eraill mewn sioc llwyr nad o'n i wedi gweld ymwelydd iechyd am dros ddwy flynedd, wel o鈥檔 i鈥檔 gw'bod bod hynna ddim yn dderbyniol.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
"Ma' ffrind i fi yn byw ym Mhowys ond 'dw i鈥檔 gallu cyrraedd ei th欧 hi o fewn hanner awr - dyna pa mor agos 鈥榙an ni, mae鈥檙 siroedd mor agos - a mae hi 鈥榙i gweld ymwelydd iechyd mor aml, yn y cartref, yn y swyddfa, yn y syrjeri.
"Pam bod ni yng Ngheredigion, sydd yn sir fawr, ddim yn gallu cael yr un ddarpariaeth?
"Does 'na ddim lot fawr o bwynt gofyn i fi ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach 鈥榯i鈥檔 teimlo鈥檔 oreit?鈥欌
Mae y llywodraeth yn nodi y dylai plant weld ymwelydd iechyd tua wyth i naw gwaith hyd nes eu bod yn dechrau'n yr ysgol.
Mae Sian Jones wedi bod yn ymwelydd iechyd yn ardal Ceredigion a dywedodd eu bod yn chwarae r么l bwysig yn mesur datblygiad plant, cefnogi rhieni ac asesu unrhyw risgiau.
Dywedodd fod ei gwaith wedi newid dipyn dros y blynyddoedd: "Yn dilyn Covid 'naeth hwnna newid y ffordd o'n ni'n gweld pobl ond hefyd ma' diffyg staff wedi bod.
"Ma' hwnna wedi cael effaith. Ni wedi gorfod canolbwyntio ar y pethe mwya' pwysig - babis rili ifanc, pobl sy'n symud mewn i'r ardal - ble mae eisiau mwy o gefnogaeth.
"Ond mae wedi bod yn gyfle i ni drio pethe newydd so ni 'di dod 芒 staff mewn o lefydd eraill鈥 ma' duty phone ni 'di cael achos Covid wedi bod yn ffantastig, ac yn ffordd i unrhyw un gysylltu 芒 ni."
Mewn ymateb fe ddywedodd Liz Wilson, sy'n uwch nyrs gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn gyfrifol am y gwasanaeth ymwelwyr iechyd, fod heriau staffio yn eu wynebu ond bod y "darlun yn gwella".
"Yn y lle cyntaf 'dw i'n flin os na gafon nhw [y mamau] y gwasanaeth roedden nhw'n ei ddisgwyl," dywedodd.
"Ry'n ni wedi cael nifer o heriau, o ran recriwtio. Mae'n broblem genedlaethol o fewn nyrsio, ond mae hefyd yn waeth yn yr ardaloedd mwy gwledig.
"Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn. Rydyn ni wedi dod o le oedd yn eithaf pryderus ond mae'n ddarlun sy'n gwella.
"Mae gennym ni fwy o ymwelwyr iechyd yn dod allan ym mis Hydref, gan gymhwyso, bydd gennym ni fwy fis Hydref nesaf."
Yn 么l elusen Barnardo's Cymru mae'n ddarlun tebyg ar draws Cymru.
"Mae pwysau enfawr ar draws y gwasanaeth ymwelwyr iechyd ry'n ni'n gweld yn lleol, ond mae鈥檔 ymddangos ledled Cymru," dywedodd Laura Bibey o'r elusen.
"Mae'n codi pryderon enfawr i'r plant sy'n cael eu heffeithio."
'Parhau i fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnig yr ystod lawn o gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru a dylent gynnal asesiad risg o'r holl lwythi achosion i nodi teuluoedd sy'n agored i niwed ac mewn perygl.
"Rydym hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd adolygu gweithrediadau'n rheolaidd, gan gynnwys y gweithlu gofynion y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd.
"Rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG a dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ymwelwyr iechyd blynyddol 12% (o 82 yn 2017 i 92 yn 2023)."