大象传媒

Penodi Nia Griffith yn weinidog yn Swyddfa Cymru

Nia Griffith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Fonesig Nia Griffith yn olynu Fay Jones fel gweinidog yn Swyddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Llanelli, y Fonesig Nia Griffith, wedi ei phenodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru.

Dyma r么l gyntaf Ms Griffiths - a gafodd ei hethol yn gyntaf yn 2005 - yn y llywodraeth.

Mae'n olynu Fay Jones, a gollodd ei sedd dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.

Y Fonesig Nia Griffith oedd ysgrifennydd yr wrthblaid ar gyfer Cymru o dan Syr Keir Starmer ac Ed Miliband, ac roedd yn ysgrifennydd amddiffyn yr wrthblaid o dan Jeremy Corbyn.

Mae AS Pontypridd, Alex Davies-Jones hefyd wedi ei phenodi'n weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, tra bod cyn-AS Delyn David Hanson wedi'i wneud yn weinidog yn y Swyddfa Gartref.

Mae Mr Hanson, a fydd yn eistedd yn Nh欧'r Arglwyddi, eisoes wedi gweithredu fel gweinidog yng nghyfnodau Tony Blair a Gordon Brown fel prif weinidogion.

Mae pedwar Aelod Seneddol Cymreig yn rhan o'r t卯m fydd yn gyfrifol am ddisgyblaeth o fewn y blaid, ac yn sicrhau fod aelodau yn cefnogi cynigion y llywodraeth yn Nh欧鈥檙 Cyffredin.

AS Alun a Glannau Dyfrdwy Mark Tami yw'r dirprwy brif chwip, mae AS Pen-y-bont Chris Elmore wedi ei benodi yn chwip, mae AS Merthyr Tudful ac Aberd芒r Gerald Jones wedi ei benodi yn chwip cynorthwyol, ac felly hefyd AS Gogledd Caerdydd Anna McMorrin.

Pynciau cysylltiedig