Dyn wedi marw ar 么l mynd i drafferthion yn Nhyddewi

Mae dyn 74 oed wedi marw ar 么l mynd i drafferthion mewn pwll d诺r yn Sir Benfro.

Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 16:00 ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu fod hynny'n dilyn adroddiad fod "dyn wedi mynd i drafferthion mewn d诺r mewn cyfeiriad yn Nhyddewi".

Dywedodd y gwasanaeth t芒n eu bod wedi tynnu'r dyn o bwll d诺r (pond) oedd yn mesur 40mx20m, a 3m o ddyfnder.

Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans a'r ambiwlans awyr hefyd fynychu'r digwyddiad, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.