´óÏó´«Ã½

Eisteddfod 2024: Cyhoeddi rhestr fer Brwydr y Bandiau

Llun o aelodau'r band 'Seren'Ffynhonnell y llun, Eisteddfod/FfotoNant
  • Cyhoeddwyd

Mae rhestr fer yr artistiaid fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi ei chyhoeddi.

Y pedwar sydd wedi cyrraedd y brig yw Ifan Rhys, Dim Gwastraff, Tesni Hughes, a Seren.

Maes B a ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru ar y cyd sy'n cynnal y gystadleuaeth yn flynyddol.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes am 15:30 ddydd Mercher, 7 Awst.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, sesiwn recordio gyda ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru a chyfle i berfformio ym Maes B ar nos Sadwrn olaf y Brifwyl.

Mae'r pedwar artist eisoes wedi recordio can ar gyfer Radio Cymru, ac mae'r perfformiadau hynny i'w gweld yma.

Ifan Rhys

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod/FfotoNant

Mae Ifan Rhys yn hen law ar berfformio ag yntau wedi bod yn aelod o fand Elis Derby ac Orinj.

Ond dyma fydd y tro cyntaf i'r cerddor o Fynydd Landegai fentro ar y llwyfan ar ei ben ei hun.

Dywedodd fod bandiau fel The Super Furry Animals a Mac DeMarco wedi dylanwadu ar ei gerddoriaeth, tra bod aelodau o'r teulu hefyd wedi bod yn rhan o fandiau fel Y Niwl, a Topper.

Fe wnaeth y cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford ryddhau ei sengl gyntaf, 'Hadau', ym mis Gorffennaf, ac mae modd gwrando arni yma.

Tesni Hughes

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod/FfotoNant

Bydd Tesni Hughes yn cystadlu gyda band llawn eleni, a hynny wedi iddi gystadlu ar ei phen ei hun nôl yn 2021.

Yn ôl Tesni, mae hi'n teimlo bod y gerddoriaeth a hi ei hun "yn sicr wedi aeddfedu" ers y tro diwethaf iddi gystadlu - pan oedd hi'n 16 oed.

Mae'r band newydd yn cynnwys aelodau o fandiau fel Maes Parcio, rhywbeth sydd wedi rhoi "hyder newydd" iddi, meddai.

Gallwch wrando ar eu sengl 'Trefn' yma.

Dim Gwastraff

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod/FfotoNant

Dim ond ym mis Ionawr gafodd Dim Gwastraff ei ffurfio - a hynny pan ddaeth Liv Williams (llais), Toby King (gitâr), Sam Veale (bâs) ac Evan Davies (drymiau) at ei gilydd.

Maen nhw eisoes wedi chwarae llond llaw o gigs lleol yn y cymoedd, ac wedi perfformio yn FfiliFfest, Green Rooms a The Moon.

Mae aelodau'r band yn hoff iawn o gerddoriaeth Paramore, ac mae Dim Gwastraff yn diffinio eu hunain fel band 'pop pync'.

Mae modd gwrando ar eu sengl, 'Breuddwydion Machlud' ymaÌý.

Seren

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod/FfotoNant

Bydd y band 'Seren' yn perfformio am y tro cyntaf erioed yn yr Eisteddfod eleni.

Daw'r prif leisydd, Elan Fflur Hughes o Landrillo yn wreiddiol, ond mae hi'n "mwynhau rhannu ei hamser rhwng tawelwch y wlad a phrysurdeb y ddinas".

Wedi ffurfio ym Mhrifysgol Lerpwl, daeth y band 'indie pop' at ei gilydd "trwy gyfres o gyd-ddigwyddiadau hapus," yn ôl Elan.

Ryddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Ffydd’, ym mis Gorffennaf, gyda'r band yn dweud fod Bwncath a Fleetwood Mac ymhlith yr artistiaid sydd wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth.