大象传媒

Batio gwych yn sicrhau g锚m gyfartal i Forgannwg

Sam NortheastFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sgoriodd Sam Northeast 166 heb fod allan er mwyn achub g锚m gyfartal i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Morgannwg achub g锚m gyfartal yn erbyn Sir Efrog ar 么l llwyddo i fatio trwy'r diwrnod olaf yng Nghaerdydd.

Ar 么l penderfynu batio gyntaf fe gyrhaeddodd Sir Efrog gyfanswm gwych o 500 o rediadau, gyda 192 o'r rheiny gan y capten Shan Masood.

Yn eu hymateb nhw, 273 oedd cyfanswm Morgannwg, gyda'u capten hwythau Kiran Carlson yn brif sgoriwr gyda 64.

Gyda Sir Efrog ar y blaen o 237 o rediadau, penderfynon nhw mai Morgannwg fyddai'n dechrau eu hail fatiad gyntaf, ond y tro hwn roedd ymateb llawer gwell gan y Cymry.

Diolch i ymdrechion arwrol Sam Northeast (166 heb fod allan) ac Eddie Byrom (101), llwyddodd Morgannwg i fatio trwy'r diwrnod olaf - gan gyrraedd cyfanswm o 401-5 - er mwyn achub g锚m gyfartal.

Pynciau cysylltiedig