大象传媒

'Aeth fy mheiriant sychu dillad ar d芒n yn oriau m芒n y bora'

Disgrifiad,

Gohebydd 大象传媒 Cymru Fyw yn disgrifio'r sioc a'r braw yn dilyn t芒n

  • Cyhoeddwyd

Ddiwedd Mawrth fe rybuddiodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru y cyhoedd.

Daeth eu hap锚l yn dilyn pedwar achos o fewn mis o beiriannau'n mynd ar d芒n - ym Mwcle, Dinbych, Brychdyn a Rhuthun.

Mae criwiau wedi ymateb i ddau achos pellach ers dechrau'r wythnos hon - gyda'r diweddaraf, wrth i mi ysgrifennu, ym Mynytho, ym Mhen Ll欧n.

Yng Nghaernarfon roedd y llall - yn fy nghartref inna'.

'Nath neb farw. Chafodd neb anaf. 'Nath yr un ohonon ni, yn deulu o bedwar, anadlu mwg.

A does dim difrod o gwbl i'r t欧 ei hun, dim ond y cwt yn y cefn ble roedd y peiriannau golchi a sychu dillad.

Ond mae'r hyn sy'n digwydd pan mae pethau'n mynd o chwith yn eich sobri.

Dydy o ddim yn brofiad y bysach chi'n ei ddymuno i unrhyw un.

Roedd y pedwar ohonon ni'n cysgu'n sownd, ychydig ar 么l 02:00 fore Mawrth, pan gawsom ein deffro gan rywun yn gweiddi ac yn curo ar y drws.

Wrth godi i'w ateb, doedd dim arwydd o fewn y t欧 bod unrhyw beth o'i le.

Pan ddy'dodd bod yna d芒n a bod angen i bawb adael, es i'r cefn a gweld golau oren o rywle wrth gyrraedd y stafell haul.

Es i'r ardd a gweld fflamau'n dawnsio trwy ddrws agored y cwt, a gwybod yn syth bod dim lle i oedi rhag i'r sefyllfa waethygu.

Fe gyrhaeddodd ddau griw t芒n o fewn munudau - mae rhywun yn gwerthfawrogi eu gwaith beth bynnag, ond yn fwy fyth pan 'dach chi eich hun yng nghanol y fath argyfwng.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma sy'n weddill o'r cwt golchi

Fe ddiflannodd unrhyw reddf newyddiadurol i gofnodi'r digwyddiad. Does dim lluniau na fideo o'r achlysur, er bod fy ff么n yn fy llaw.

Wrth wylio'r ymladdwyr t芒n yn diffodd y fflamau, roedd yn amlwg pa mor eithriadol o ffodus fuon ni bod rhywun wedi digwydd cerdded heibio yr adeg yna o'r bore.

Diolch o galon i'r sawl hwnnw - rydan ni wedi cael awgrym pwy ydy o - ac i gymdogion hael a gynigiodd loches i ni yn yr oriau m芒n.

Cafodd y difrod ei gyfyngu i'r cwt ei hun, fwy neu lai. Pe tasai'r t芒n wedi lledu i'r t欧 ei hun, mae boeler nwy y system gwres canolog ochr arall i'r wal. Roedd y ffliw sy'n cysylltu 芒 hwnnw wedi toddi yn y gwres.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r sioc yn parhau oriau wedi'r t芒n

Roedd y criwiau t芒n wedi gadael cyn 04:00 - mawr ddiolch iddyn nhw am bopeth.

Does dim gwybod yn sicr eto pam ddigwyddodd y t芒n, ond roedd popeth yn awgrymu yn eitha' buan taw'r peiriant sychu dillad oedd wedi ei achosi.

Aeth gweddill y dydd heibio yn un niwl mawr o gysylltu gyda chontractwyr i ailgysylltu'r trydan, nwy a d诺r - ac ymateb i fflyd o negeseuon hyfryd o gefnogaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwaith clirio eto i ddod

Dros 36 awr yn ddiweddarach, dwi'n dal yn sigledig, ond dwi'n fyw ac yn iach ac mae fy nghartref fwy neu lai yn iawn.

Alla'i ddim dychmygu trallod rheiny sydd wedi colli popeth mewn tanau mwy difrifol.

Ond mi wn erbyn hyn pa mor sydyn a pha mor hawdd gall pethau fynd o chwith - a dwi'n awyddus i helpu lledaenu ap锚l y gwasanaethau brys.

Dyna pam dwi'n rhannu fy mhrofiad, er mor gyndyn yw unrhyw newyddiadurwr i fod yng nghanol stori.

Pan mae'r gwasanaethau t芒n a'r gwneuthurwyr yn eich cynghori i ddefnyddio peiriannau sychu dillad gyda gofal, gwrandewch arnyn nhw. Mae'r cyngor yna am reswm.

Pynciau cysylltiedig