大象传媒

Ble fydd cartref nesaf y Gweilch?

GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Mae Stadiwm Swansea.com wedi bod yn gartref i'r Gweilch ers 2005, ond maen nhw bellach yn chwilio am gartref newydd.

Ar hyn o bryd maen nhw'n rhannu'r safle gyda th卯m p锚l-droed Abertawe.

Dymuniad Prif Weithredwr y rhanbarth, Lance Bradley, yw symud i stadiwm lai o faint sy'n fwy addas ar gyfer eu gofynion.

Mae'r rhanbarth yn ymestyn o Abertawe i Gastell-nedd, a Phen-y-bont ar Ogwr yn y dwyrain.

Mae disgwyl cyhoeddiad o fewn yr wythnosau nesaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gweni, Elin Mannion a Nia o'r farn mai Pen-y-bont yw'r lle gorau i'r Gweilch

Yn ddiweddar mae鈥檙 Gweilch wedi chwarae dwy g锚m gartref ar Gae鈥檙 Bragdy ym Mhen-y-bont, ac wedi herio Sale yng Nghwpan Her Ewrop o flaen tyrfa lewyrchus a swnllyd.

Mae rhai o'r plant sy'n aelodau o glwb rygbi Pen-y-bont o'r farn y dylai'r t卯m ymgartrefu yn yr ardal.

Dywedodd Gweni y byddai'n "hoffi os bydde nhw'n symud i Ben-y-bont oherwydd mae'r siwrne o Ben-y-bont i Abertawe yn eithaf hir, a bydd yn neis oherwydd mae lot o bobl yn cefnogi'r Gweilch o Ben-y-bont".

Fe ychwanegodd Nia ei bod "eisiau gweld nhw'n chwarae ym Mhen-y-bont oherwydd dwi'n joio gweld nhw a bydd e'n haws i gyrraedd y gemau".

Pen-y-bont 'yn barod i groesawu'r Gweilch'

Un o'r prif bethau sydd gan Ben-y-bont i'w gynnig i'r t卯m yw'r cyfleusterau, meddai Elin Mannion.

"Mae'r holl gyfleusterau yma ac mae'n rhaid ystyried hwnna, ma' sawl hewl mewn i Ben-y-bont, ma' lle i barcio ym Mhen-y-Bont, gorsaf dr锚n, bwytai, ma' popeth yma, ni'n barod yma ym Mhen-y-Bont i groesawu'r Gweilch."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wayne Pedrick am weld y t卯m yn ymgartrefu yng Nghastell-nedd neu yn Abertawe

Ers canrif a mwy y Gnoll yng Nghastell-nedd fu cartref y crysau duon Cymreig.

Er mai lle i ryw 6,000 sydd yma ar hyn o bryd, mae cefnogwyr yn dadlau bod 'na fanteision i ddod yma.

Dywedodd Wayne Pedrick, un o gefnogwyr y Gweilch, yr hoffai "weld e [y rhanbarth] yng Nghastell-nedd neu yn Abertawe, fydde ddim ots da fi p'un, achos fi'n dod o Wauncaegurwen ac i drafeilio, mae biti'r un faint i fi".

"Se fe lawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ma' hwnna'n dipyn o ffordd i ni ddod lawr i fan 'na."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Keith Collins yn gobeithio y bydd "pawb yn dod at ei gilydd fel un" i ddewis y lleoliad

Aros yn Abertawe yw鈥檙 opsiwn arall ond symud ymhellach i鈥檙 gorllewin i faes Sarn Helen.

Cae sydd wedi cynnal gemau rygbi a chriced o bwys hanesyddol ar hyd y blynyddoedd.

Ond yma eto mi fyddai angen datblygu ac addasu.

Gobaith Keith Collins, ysgrifennydd clwb Cefnogwyr y Gweilch yw "y bydd pawb yn cael y tu 么l i'r t卯m a bydd pawb yn dod at ei gilydd fel un", gan ddweud bod y Gweilch wedi chware i safon uchel eleni.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Cae'r Bragdy yn llawn pan chwaraeodd y Gweilch yno ddydd Calan

Dyw鈥檙 Gweilch ddim wedi dweud yn swyddogol pa leoliadau sydd o dan ystyriaeth ond mae'r rhanbarth wedi bod yn holi barn cefnogwyr a phobl fusnes.

Chwilio am leoliad fydd ag awyrgylch hwyliog a chyfleusterau da yw鈥檙 nod a chartref fydd yn esgor ar lwyddiant ar y cae hefyd.

Mae disgwyl cyhoeddiad o fewn yr wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig