'Rhowch rodd 拢200,000 yn 么l' medd cyn-weinidog wrth Gething
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Lee Waters, wedi dweud wrth y Senedd y dylai鈥檙 Prif Weinidog Vaughan Gething roi rhodd o 拢200,000 yn 么l i gwmni y mae ei berchennog wedi鈥檌 ddyfarnu鈥檔 euog o droseddau amgylcheddol.
Dywedodd Mr Waters, y cyn-weinidog newid hinsawdd, ei fod yn "anghysurus iawn" yngl欧n 芒'r rhodd, ac na fyddai鈥檔 鈥渁rwydd o wendid i ddweud ei fod yn gamgymeriad".
Fodd bynnag, dywedodd Mr Waters ei fod yn pleidleisio gyda'r llywodraeth mewn dadleuon ar y pwnc oherwydd ei fod eisiau clywed canlyniad adolygiad mewnol o'r blaid Lafur dan arweiniad y cyn-brif weinidog Carwyn Jones i reolau etholiad arweinyddiaeth Llafur.
Yn gynharach ddydd Mercher, fe wnaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak gefnogi galwadau am ymchwiliad annibynnol i roddion ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru Vaughan Gething.
Derbyniodd Mr Gething 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni ailgylchu Dauson Environmental Group, sy'n eiddo i ddyn sydd wedi cael ei erlyn am dipio gwastraff yn anghyfreithlon.
Dywedodd Rishi Sunak nad yw鈥檙 sefyllfa 鈥測n dryloyw o gwbl a bod angen atebion鈥.
Mae Mr Gething wedi dweud ei fod bob amser wedi dilyn y rheolau ac wedi gwrthod rhoi'r arian yn 么l.
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
Fe wnaeth Aelodau o'r Senedd bleidleisio ar y mater brynhawn Mercher.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn feirniadol o Mr Gething am dderbyn y rhodd gan gwmni sydd ag is-gwmni sydd wedi cymryd benthyciad o 拢400,000 gan Fanc Datblygu Cymru.
Mae Mr Gething wedi mynnu drwy'r amser na all ac na fydd yn gwneud unrhyw benderfyniad yn ymwneud 芒 chwmni Dauson.
Mae Banc Datblygu Cymru wedi dweud ei fod yn annibynnol i weinidogion.
Mae'r cwmni yn eiddo i David John Neal a gafodd ddedfryd ohiriedig yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon, ac un yn 2017 am beidio 芒'i glirio.
Mae un o fusnesau Dauson yn safle tirlenwi yn Sir Benfro - sy'n destun ffrae barhaus am ei arogl.
Ddydd Mawrth dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod "sawl achos difrifol o dorri amodau'r drwydded" ar safle Withyhedge.
'Llygredig'
Yn sesiwn Cwestiynau i鈥檙 Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd yr AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb: 鈥淓rs chwe mis, mae miloedd o fy etholwyr wedi byw gydag aer llygredig o safle tirlenwi Withyhedge.鈥
Wrth godi mater y rhodd a benthyciad Banc Datblygu Cymru, dywedodd: "A yw'r prif weinidog yn cytuno 芒 mi bod y mater yn gofyn am ymchwiliad annibynnol difrifol?
"Nid yw'n fater mewnol gan y Blaid Lafur ac, yn y pen draw, mae angen i'r cwmni hwnnw adael fy etholaeth fel y gall pobl Sir Benfro gael ansawdd eu bywyd yn 么l.鈥
Atebodd Mr Sunak gan ddweud bod Mr Crabb "yn codi mater hynod o bwysig a gwn fod pobl yng Nghymru yn pryderu am y berthynas y mae'n s么n amdani".
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd yn cytuno ag ef ar yr angen am dryloywder ac ymchwiliad yngl欧n ag arweinydd Llafur Cymru oherwydd mae'n amlwg iawn nad yw'r sefyllfa yn dryloyw o gwbl ac mae angen atebion."
Fe wnaeth y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru orfodi dwy set o bleidleisiau brynhawn Mercher ar roddion Vaughan Gething - gan alw am ymchwiliad annibynnol a chap ar roddion yn y drefn honno.
Roedd gan Lafur - sydd ag union hanner y 60 o wleidyddion y Senedd - ddigon o bleidleisiau i'w hennill, gyda'r AS Rhys ab Owen wedi'i atal ar hyn o bryd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ASau Llafur bleidleisio yn erbyn y cynigion gan y ddwy blaid.
Galw yr oedd y Ceidwadwyr "ar y prif weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas 芒'r rhodd".
Roedd Plaid Cymru yn dweud "y dylid gosod uchafswm blynyddol ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw aelod unigol o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid".
'Dim cwestiynau dilys'
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mr Gething nad oes cwestiynau 鈥渄ilys鈥 yngl欧n 芒鈥檌 gymeriad na鈥檌 ymddygiad yn sgil y ffrae am y rhodd.
Wrth gael ei holi gan Bwyllgor Craffu Senedd Cymru ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog ei fod wedi bod yn 鈥渙nest drwy gydol yr amser yngl欧n 芒鈥檙 hyn yr ydw i wedi ei wneud".
Dywedodd hefyd bod angen trafod y 鈥渞ealiti鈥 bod ymgyrchoedd gwleidyddol yn gostus.
鈥淥s nad ydych chi鈥檔 mynd i gael y wladwriaeth i ariannu pleidiau ac ymgyrchoedd, sut y鈥檆h chi鈥檔 mynd i godi arian?
鈥淪ut mae gwneud hynny felly yw dilyn y rheolau, a datgan beth ydych chi鈥檔 mynd i鈥檞 wneud a datgan yn glir bod eich sefyllfa chi fel ymgeisydd ddim wedi ei gyfaddawdu gan y ffynonellau ariannol amrywiol sydd wedi cael eu datgan.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Ebrill