Achos marwolaeth ar 么l gadael y ddalfa yn ddirgelwch
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor cwest wedi dod i gasgliad agored yn achos dyn fu farw 14 awr ar 么l iddo gael ei ryddhau o ddalfa鈥檙 heddlu.
Bu farw Mohamud Hassan, 24, mewn fflat ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021.
Dyfarnodd y crwner Graeme Hughes bod 鈥渢ystiolaeth annigonol鈥 bod marwolaeth Mr Hassan wedi鈥檌 achosi gan 鈥渦nrhyw weithred neu ddiffyg gweithred gan unrhyw swyddog heddlu".
Clywodd y cwest ym Mhontypridd nad oedd modd sefydlu achos meddygol ei farwolaeth.
Dywedodd teulu Ms Hassan eu bod "wedi llethu" gan gasgliad y cwest.
"Mae鈥檙 casgliad agored, sef yr unig opsiwn oedd ar gael i鈥檙 rheithgor, yn un sy鈥檔 adlewyrchu'r dirgelwch parhaus ynghylch marwolaeth Mohamud," meddai eu datganiad.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ar 么l y cwest bod eu hymchwiliad nhw wedi dod i'r casgliad na wnaeth gweithredoedd swyddogion Heddlu'r De gyfrannu at farwolaeth Mr Hassan.
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2022
Roedd Mr Hassan wedi cael ei arestio鈥檙 noson gynt ar amheuaeth o dorri鈥檙 heddwch (breach of the peace).
Clywodd y rheithgor ei fod wedi brwydro n么l tra'n cael ei arestio, a'i fod wedi treulio'r noson yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Cafodd ei ryddhau'r bore canlynol.
Clywodd y rheithgor fod Mr Hassan wedi treulio gweddill y diwrnod yn "ymlacio a smocio canabis" cyn mynd i'w wely yn teimlo'n wael am 17:00.
Aeth ffrind i'w ddeffro am 22:00 a'i ganfod yn anymwybodol.
Cafodd parafeddygon eu galw, ac fe ddaethon nhw i'r casgliad ei fod wedi marw ers tipyn o amser.
Roedd y crwner wedi dweud wrth y rheithgor am gyrraedd canlyniad agored, gan ddweud fod "y dystiolaeth ddim yn dangos sut y bu farw".
Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod wedi marw "o ganlyniad i ddigwyddiad meddygol", ond nad oedd modd gwybod beth oedd y digwyddiad hwnnw.