Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyn-gynghorydd yn euog o geisio llofruddio ei wraig
Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi cael cyn-gynghorydd tref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn euog o geisio llofruddio ei wraig yn ystod ffrae am ei chymar newydd.
Roedd Darren Brown, sy'n 35 oed ac o ardal Melin Wyllt y dref, wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol bwriadol ond roedd yn gwadu'r cyhuddiad mwy difrifol.
Fe gafodd rybudd gan y barnwr i ddisgwyl cyfnod hir o garchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.
Clywodd y llys bod Brown wedi trywanu ei wraig Corinne, 33, deirgwaith - yn ei chefn a'i hochr - gyda chyllell cegin yn eu cartref ar 10 Gorffennaf y llynedd.
Fe achosodd dwll yn un o'i hysgyfaint ac fe dreuliodd bum niwrnod yn yr ysbyty.
'Yn enw cariad'
Fe ddigwyddodd yr anaf cyntaf wrth iddi blygu dros got i gysuro eu merch fach blwydd oed, oedd wedi cael ei deffro gan s诺n y p芒r yn cecru.
Roedd priodas y ddau, wedi 16 o flynyddoedd, wedi dod i ben chwech wythnos ynghynt, ond roedd y ddau yn dal i fyw o dan yr un to.
Y penwythnos cyn yr ymosodiad roedd Mrs Brown wedi teithio i Southend-on-Sea i gwrdd 芒 dyn yr oedd wedi dod i'w adnabod ar-lein.
Dywedodd eu bod yn ffrindiau yn wreiddiol, ond bod perthynas wedi datblygu nes eu bod "yn fwy na ffrindiau" bythefnos cyn iddi gael ei thrywanu.
Clywodd y llys bod Mrs Brown wedi llusgo'i hun i'r ystafell ymolchi a chloi'r drws, ond fe dorrodd ei g诺r drwyddo a'i thrywanu eto.
Ar un adeg fe gynigiodd y gyllell iddi ac awgrymu: "Gallen ni fynd 'da'n gilydd."
Dywedodd James Wilson, bargyfreithiwr yr erlyniad: "Ni wnaeth unrhyw beth i'w helpu," gan ychwanegu y gallai Mrs Brown fod wedi marw.
Roedd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Kevin Seal wedi dweud bod Brown "yn ddyn teulu gweithgar, nad oedd wedi anafu ei wraig nes y noson honno", a bod terfyn y briodas "wedi ei ddryllio".
Clywodd y llys bod Corrine Brown wedi ffonio ei mam tua 22:10 ar y noson yn dweud ei bod "methu anadlu" ar 么l cael ei thrywanu.
Brown agorodd y drws pan gyrhaeddodd June Hibbert ac roedd yn ymddangos "wedi cynhyrfu ac yn ddagreuol".
"Roedden ni gyd mewn sioc," meddai Mrs Hibbert.
Pan ofynnodd iddo beth oedd wedi digwydd, atebodd: "Gawson ni ffrae ac rwy' wedi ei thrywanu."
Fe wylodd Corrine Brown ym mreichiau ei chymar newydd wrth i ddyfarniad y rheithgor gael ei gyhoeddi.
Fe fydd Brown yn cael ei ddedfrydu ar 15 Tachwedd.