大象传媒

42% o blant anabl ddim yn gwneud chwaraeon tu allan i'r ysgol

Miller
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Miller ei eni gyda chyflwr Spina Bifida

  • Cyhoeddwyd

Tydi 42% o blant anabl ddim yn gwneud unrhyw chwaraeon sydd wedi ei drefnu tu allan i鈥檙 cwricwlwm, yn 么l ffigurau gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

Maen nhw felly'n galw am sicrhau fod gwersi chwaraeon yn yr ysgol yn addas a chynhwysol i bawb.

Un sefydliad sy'n cynnig croeso i unrhyw un ydy Clwb P锚l Fasged Cadair Olwyn Aberystwyth, ac mae鈥檙 clwb hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i blant a phobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Un o鈥檙 rheiny yw Miller, sy鈥檔 10 oed ac yn dod o Drefach Felindre yn Sir G芒r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd rhieni Miller, Abby a Joshua Harris, fod y clwb yn rhoi mwy o hyder i'w mab

Cafodd Miller ei eni gyda chyflwr Spina Bifida ac mae wrth ei fodd gyda chwaraeon.

Mae鈥檔 dod i鈥檙 clwb yn Aberystwyth 鈥渁chos mae鈥檙 g锚m yn rili da ac mae pawb yn y clwb yn rili neis i fi鈥.

Gyda Miller a鈥檌 deulu yn teithio dros awr i ddod i鈥檙 clwb, mae鈥檔 dweud bod 鈥渄im lot o glybiau rownd fi so mae rhaid i fi ddod fan hyn鈥.

Mae rhieni Miller - Abby a Joshua Harris - yn falch iawn o鈥檙 cyfleoedd mae eu mab yn ei gael gyda鈥檙 clwb, a鈥檙 ddau hefyd yn ymuno yn y chwarae.

Yn 么l Abby: 鈥淵n ysgol ma' ffrindie fe yn dda yn chwarae p锚l droed, ond fan hyn, Miller yw y pro ac ma' fe just yn rhoi hyder iddo fe鈥.

Mae Joshua yn dweud bod dod i鈥檙 clwb 鈥渁 gyd o teulu fe yn chwarae gyda fe yn 'neud byd o wahaniaeth, ma' fe鈥檔 dod yn fyw鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na nifer o staff ysgol sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i gynnwys pawb, yn 么l Tom Rogers o Chwaraeon Anabledd Cymru

Yn 么l Tom Rogers o Chwaraeon Anabledd Cymru, os nad yw plant gydag anableddau yn gwneud chwaraeon yn yr ysgol yna 鈥渕ae 鈥榥a gymaint o blant yn gwneud dim鈥.

Dywedodd bod 鈥60% o staff ysgol yn teimlo bod nhw ddim efo adnoddau i gefnogi nhw i gynnwys pawb鈥.

Gydag adnoddau a hyfforddiant am ddim ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru i helpu ysgolion wneud eu gwersi chwaraeon yn fwy cynhwysol, mae Tom yn dweud mai鈥檙 鈥渟tep nesa鈥 felly ydy sut da' ni鈥檔 cael y wybodaeth yna allan i helpu nhw addasu鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae鈥檔 bwysig rhoi cyfle i bawb a trio'n gorau i 'neud yn si诺r bod y cyfleoedd yna,鈥 meddai Kai Hamilton-Frisby

Mae Kai Hamilton-Frisby wedi cynrychioli Cymru mewn P锚l Fasged Cadair Olwyn, ac mae bellach yn astudio chwaraeon ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Doedd cymryd rhan mewn chwaraeon ddim wastad mor hawdd iddo, ond trwy gyfathrebu a chydweithio gyda鈥檌 athrawon, daeth newid i鈥檞 fyd, gan fynd ymlaen i gwblhau TGAU a Lefel A yn y pwnc.

鈥淵n wreiddiol doedd y gwersi chwaraeon ddim yn hygyrch a chynhwysol, ond pan es i at yr ysgol, roedden nhw wedi gwneud llawer o newidiadau,鈥 meddai.

Yn 么l Kai: 鈥淩oedd e鈥檔 gr锚t achos am y tro cyntaf yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn teimlo'n wahanol.

鈥淭i byth yn gwybod, gall y plentyn anabl sydd methu cymryd rhan mewn gwersi chwaraeon yn yr ysgol, fod yn athletwr Paralympaidd yn y dyfodol, so mae鈥檔 bwysig rhoi cyfle i bawb a trio'n gorau i 'neud yn si诺r bod y cyfleoedd yna.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Lee Coulson mae 鈥減obl gydag anableddau yn medru cymryd rhan mewn sesiynau prif ffrwd"

Yn 么l Lee Coulson, sy鈥檔 hyfforddi clwb p锚l fasged cadair olwyn Aberystwyth 鈥渄ydy hyn ddim yn fai ar neb, ond mae鈥檔 rhaid i ni addysgu ein gilydd am fod yn gynhwysol鈥.

Ychwanegodd bod 鈥減obl gydag anableddau yn medru cymryd rhan mewn sesiynau prif ffrwd, mae just angen dysgu sut i addasu鈥檙 sesiynau yna鈥.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r 鈥渃wricwlwm wedi鈥檌 gynllunio i fod yn gynhwysol ar gyfer pob dysgwr".

"Dylai ysgolion ddarparu amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau y gall pob dysgwr o bob gallu gymryd rhan ynddynt."

Pynciau cysylltiedig