大象传媒

Cyfyngu bargeinion bwyd yng Nghymru 'i daclo gordewdra'

Disgrifiad,

Cymysg oedd y farn am y cynllun ym Mhontardawe

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfyngiadau ar fargeinion ar fwydydd braster uchel, melys neu hallt dan gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i鈥檙 afael 芒 gordewdra a diabetes.

Y cynllun yw gwahardd gostyngiadau pris dros dro, cynigion amlbryniant fel cael tri phecyn am bris dau, a phrydau bargen (meal deals) sy'n cynnwys lefelau uchel o siwgr a halen.

Ond mae pryderon am amseru鈥檙 cyhoeddiad, gyda phrisiau bwyd yn parhau i gynyddu.

Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar draws Cymru yn 2025.

'Temtasiwn yn anodd'

Mae nifer o siopau鈥檔 gwneud cynigion arbennig i ginio sy鈥檔 cynnwys brechdan, diod ac un eitem arall am bris penodol.

Bydd cyfyngiadau ar rai cyfuniadau sy鈥檔 cynnwys mwy na鈥檙 argymhelliad dyddiol o fraster, siwgr neu halen.

Bydd y ddeddf newydd hefyd yn atal gwerthwyr rhag gostwng prisiau dros dro, a chynigion arbennig dau-am-bris-un ar y bwydydd lleiaf iachus.

Fe fyddan nhw hefyd yn ceisio atal prynu munud-olaf ar y bwydydd hyn, trwy ofyn i siopau beidio 芒 hyrwyddo rhai eitemau mewn llefydd amlwg ac wrth y til.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd bellach yn cynnig rhyw fath o brydau bargen - fel arfer brechdan, diod ac un eitem arall am bris penodol

Fydd cynlluniau tebyg i Loegr ddim yn cael eu cyflwyno am y tro.

Yn 么l y Prif Weinidog Rishi Sunak, byddai鈥檔 annheg i gyfyngu ar ddewisiadau tra bod prisiau bwyd yn parhau鈥檔 uchel.

'Bwyta鈥檔 iach, mae鈥檔 anodd

Roedd croeso cymysg i鈥檙 newidiadau ar strydoedd Pontardawe.

鈥淢ae鈥檔 dibynnu ar y rhesymau tu 么l y syniadau newydd,鈥 meddai Lizzy Felton.

鈥淢ae e yn anodd i fwyta鈥檔 iach nawr. Mae llawer o fwyd wedi prosesu ym mhobman.

鈥淏wyta鈥檔 iach, mae鈥檔 anodd. Dwi ddim yn gweld [y polisi] fel rhywbeth drwg i ni.

鈥淩wy鈥檔 ffeindio fe鈥檔 haws cerdded heibio pethau fel鈥檔a, ond dyw plant ddim, ac wedyn pan maen nhw鈥檔 eu rhoi nhw yn y fasged neu鈥檔 gofyn mae鈥檔 anodd i ddweud 'na'. Felly i blant mae鈥檔 anodd i ddim prynu pethau fel 鈥檔a.鈥

I Samantha Meo, sydd wedi bod yn dilyn rhaglen colli pwysau, mae鈥檙 bargeinion wrth y til yn broblem fawr.

鈥淢ae e wedi bod am flynydde nawr,鈥 meddai.

鈥淢aen nhw wedi trial symud nhw achos mae temtasiwn 鈥榥a i cwnnu nhw lan, ac mae plant i gyd yn cwnnu nhw lan a just rhoi nhw ar y til.

"Chi just wedi prynu nhw. So chi gallu mynd 'n么l, ti'n gorfod rhoi nhw yn y bag.鈥

Gordewdra ar gynnydd

Yn 么l cyfarwyddwr archfarchnadoedd Filco, Matthew Hunt, mae amseru鈥檙 cyhoeddiad yn 鈥渃hwerthinllyd鈥.

鈥淢ae werth nodi bod Rishi Sunak wedi bod yn trafod llacio鈥檙 ddeddfwriaeth yma gan ddweud y byddai hynny yn ei hun yn achosi chwyddiant," meddai.

"Nid dyma鈥檙 amser ar gyfer hyn, yn enwedig gyda chwyddiant bwyd mor uchel fel mae hi."

Ychwanegodd bod angen osgoi "creu dryswch" drwy gael dwy lywodraeth gyda dau bolisi gwahanol.

鈥淕wnewch e鈥檔 hawdd a gwnewch e鈥檔 unffurf, fel bod y defnyddiwr a鈥檙 gwerthwr yn gallu cael y cyfle gorau i ddeall y peth," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Matthew Hunt y byddai gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr yn creu "dryswch"

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cefnogaeth gref gan y cyhoedd i helpu pobl i wneud dewisiadau bwyd fwy iach.

Yn 么l data Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 60% o bobl yng Nghymru dros bwysau, ac mae oddeutu un ym mhob pedwar plentyn yn ordew erbyn eu bod yn bum mlwydd oed.

Mae nifer y bobl gyda diabetes math 2 hefyd ar ei uchaf erioed yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle y bydd y ddeddfwriaeth yn helpu atal gordewdra yng Nghymru.

鈥淓in nod yw ail-gydbwyso鈥檔 hawyrgylch bwyd tuag at gynnyrch mwy iach, fel mai鈥檙 dewis iach yw鈥檙 dewis hawdd," meddai.

Disgrifiad,

"Fel oedolion, mae i fyny i ni i benderfynu", meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Dywedodd Dr Ilona Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes un ateb i鈥檙 broblem.

鈥淩ydym yn gwybod o鈥檙 dystiolaeth bod polis茂au sy鈥檔 taclo鈥檙 amgylchedd bwyd yn effeithiol, a bod fframwaith gyfreithiol gref yn gam pwysig tuag at symud y balans at ddewisiadau iachach a phobl iachach," meddai.

Dweud bod angen ystyried yn ofalus cyn cyfyngu ar eitemau mewn cynigion arbennig mae Consortiwm Manwerthu Cymru.

Maen nhw hefyd yn mynnu eu bod wedi ymrwymo i helpu prynwyr Cymru i wneud dewisiadau iach.

鈥淢ae cynigion arbennig yn caniat谩u i werthwyr a brandiau gystadlu i ddenu cwsmeriaid, gan wella cystadleuaeth a chadw prisiau鈥檔 isel," meddai llefarydd.

鈥淕yda chwyddiant bwyd ar yn agos at ei uchaf ers 18 mlynedd, byddai鈥檔 anghyfrifol i godi costau fel hyn gyda dim tystiolaeth y bydd yn gwella iechyd cyhoeddus yn sylweddol.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall prydau bargen gynnwys diodydd iach - ond mae'r opsiwn yno hefyd i ddewis rhai sydd 芒 llawer o siwgr

Tra鈥檔 cydnabod bod gordewdra鈥檔 broblem fawr, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod angen sicrwydd cadarn gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn cynyddu鈥檙 cost siopa wythnosol cyfartalog.

鈥淓r mwyn taclo gordewdra, mae angen ymdriniaeth gan y llywodraeth gyfan, wrth addysgu plant am fwyd, dysgu ymarfer corff a buddsoddi mewn clybiau chwaraeon," meddai James Evans AS, llefarydd y blaid ar iechyd meddwl.

鈥淢ae Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai r么l y llywodraeth yw i addysgu, cynghori ac annog arferion bwyta gwell.

"Mae鈥檔 siom bod cam-lywodraethiant Llafur yn golygu bod angen mesurau eithafol i ostwng gordewdra yng Nghymru."

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn cefnogi mesurau sy鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 haws i fyw鈥檔 iach.

鈥淢ewn argyfwng costau byw, pan fo gormod o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd i roi bwyd ar y bwrdd o gwbl, ddylai hyn ddim fod am atal gostyngiadau ar fwyd," meddai llefarydd.

"Mae gallu rhoi rhyw fath o fwyd ar y bwrdd yn well na dim bwyd ar y bwrdd o gwbl.鈥