´óÏó´«Ã½

Sut beth oedd dyddiau ysgol yn Oes Fictoria?

Yr hanesydd Elin TomosFfynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Yr hanesydd Elin Tomos

  • Cyhoeddwyd

Yn 1847 cafodd nyth cacwn ei godi ym mywyd cyhoeddus Cymru pan gyhoeddwyd adroddiad ar gyflwr addysg y wlad, adroddiad a gafodd ei gyfeirio ato'n fuan wedyn fel Brad y Llyfrau Gleision.

Y casgliad oedd bod y Cymry – diolch i’w hymrwymiad i’r iaith Gymraeg a’u crefydd Anghydffurfiol – yn genedl anwybodus ac anfoesol, canfyddiad a greodd stŵr sylweddol ledled y wlad.

Yma, mae’r hanesydd Elin Tomos yn edrych y tu hwnt i gynnwys rhagfarnllyd yr adroddiad gan daro golwg ar yr hyn gafodd ei ysgrifennu am ysgolion a phrofiadau disgyblion yng Nghymru’r cyfnod.

Plant 'digywilydd' Llanpumsaint

O derfysgoedd gwledig Merched Beca i brotestiadau tanllyd y Siartwyr – roedd yr 1830au yn ddegawd cythryblus yng Nghymru.

Fe dderbyniodd y digwyddiadau hyn gryn gyhoeddusrwydd yn y wasg yn Lloegr gyda llawer yn credu mai diffygion yng nghyfundrefn addysg Cymru a oedd wrth wraidd yr aflonyddwch.

Ym mis Mawrth 1846 fe alwodd yr Aelod Seneddol dros Coventry, William Williams – Cymro o Lanpumsaint, Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol – am ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Wiki
Disgrifiad o’r llun,

Terfysgoedd Merched Beca

Erbyn mis Gorffennaf roedd y Llywodraeth wedi penodi tri arolygwr i gwblhau’r gwaith: Jelinger C. Symons, R. R. W. Lingen, a H. R. Vaughan Johnson.

Er bod y tri yn unigolion galluog doedd gan yr un ohonynt gefndir addysgol nag unrhyw ddealltwriaeth o’r Gymraeg na chwaith o draddodiad a dylanwad y capeli yng Nghymru.

Casglwyd tystiolaeth ac ystadegau o bob cwr o Gymru ac ar 1 Gorffennaf 1847 fe gyflwynwyd eu hadroddiad i’r Llywodraeth ar ffurf tair cyfrol swmpus wedi’u rhwymo mewn cloriau glas.

Roedd disgyblion ysgol ‘Mrs Bevan’ ym mhlwyf Llanpumsaint y plant mwyaf digywilydd a welodd yr arolygwr erioed!

Trwy gydol y wers mi roedden nhw'n cerdded i mewn ac allan o’r dosbarth fel y mynnent ac mi fynnodd un ohonynt ganu'r un diwn drosodd a throsodd.

Nid oedd ymddygiad plant Llanidloes lawer gwell.

Tra’r roedd rhai’n gweithio yn ffatrïoedd gwlân y dref roedd y mwyafrif llethol yn treulio’u dyddiau yn diogi neu’n dwyn coed tân!

Sgyrsiau'r arolygwyr gyda'r plant

Mewn sawl ysgol mae’r arolygwyr yn cyfeirio at gyflwr anaddas yr adeiladau.

Ym Machynlleth roedd llawr ysgol adran y bechgyn mor llaith ‘that the boys are mounted upon planks to avoid catching a cold.’

Roedd adeilad yr ysgol yn Llangoedmor yng Ngheredigion yn waeth fyth – roedd y llawr yn wlyb ac yn fwdlyd a doedd yno ddim nenfwd!

Roedd yr arolygwr wedi synnu i glywed y plant yn honni mai chwe diwrnod oedd mewn wythnos a phedwar mis ar ddeg mewn blwyddyn.

Wrth grwydro o amgylch Cymru roedd yr arolygwyr a’u cynorthwywyr yn bachu ar y cyfle i sgwrsio â phobl ifanc y tu allan i’r ysgolion hefyd.

Ffynhonnell y llun, Wiki
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb Ysgol Sul o'r 1840au

Bu un o’r cynorthwywyr yn holi gwas fferm truenus o’r enw William Davis. Roedd William yn 16 mlwydd oed ac yn gweithio ar fferm Dolau-gleision ym mhlwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin.

Datgelodd bod ei fam yn gweithio yn y gweithfeydd haearn ym Merthyr Tudful a’i Dad wedi marw ers rhyw bum mlynedd.

Gofynnwyd llith o gwestiynau iddo am Dduw, pechu, nefoedd ac uffern ond fe atebodd ‘wn i ddim’ i bron pob cwestiwn.

Dywedodd yr hoffai ddysgu sut i ddarllen ond esboniodd nad oedd ganddo ddillad addas i fynychu ysgol neu gwrdd crefyddol. Yn ôl y cynorthwyydd, roedd William yn ‘nearly naked in his rags.’

Ffynhonnell y llun, Wiki
Disgrifiad o’r llun,

Llun dipyn hwyrach (1880au) ond criw Ysgol Sul Carno. Roedd Ysgolion Sul yn rhan annatod o gyfundrefn addysg Cymru yn ystod Oes Fictoria.

Canmoliaeth i Ysgol Dinorwig

Roedd eu sylwadau am ysgolion ardaloedd y chwareli llechi yn ddigon cymysg.

Cafwyd peth canmol i ysgol Dinorwig, lle’r oedd y plant yn dysgu pynciau amrywiol fel ysgrythur, daearyddiaeth, hanes a rhifyddeg.

Cyn troi’i law at addysgu roedd yr athro wedi bod yn gweithio fel saer olwynion ac er iddo gael ei ddisgrifio fel athro bywiog ac effeithiol doedd ganddo ddim rheolaeth dros ei ddisgyblion.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Y plac ar Ysgol Frytanaidd Llanllyfni a agorwyd yn 1863. Ymgyrchodd Y Parchedig Roberts Jones o Lanllyfni a’r Rheithor John Jones dros addysg i blant yr ardal, a chodwyd Ysgol Frytanaidd yn y pentref

Beirniadwyd ysgol Llanllyfni'n llym. Ar ddiwrnod yr arolwg dim ond saith o blant a oedd yn bresennol - roedd y mwyafrif llethol o'r disgyblion yn ceisio osgoi'r frech goch a oedd yn bla yn y plwyf.

Roedd yr ysgol wedi'i lleoli mewn capel oedd wedi mynd â'i ben iddo, heb le tân, dodrefn na chyfarpar addas.

Nododd yr arolygwr bod y plant yn cael eu cyflogi ‘at a very early age in the quarries.’

Tydi dyddiau ysgol ddim yn edrych cynddrwg rŵan!

Pynciau cysylltiedig