大象传媒

Dyn yn gwadu treisio dynes ar fideo yng Nghaerdydd

Liam Stimpson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Liam Stimpson yn cael ei hebrwng i'r llys

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o dreisio dynes ddwywaith yng nghanol Caerdydd a ffilmio'r ymosodiad ar ei ff么n symudol wedi gwadu'r honiadau.

Dywedodd Liam Stimpson, 24 oed o Gaerdydd, fod y ddynes 40 oed wedi dweud wrtho ei bod hi eisiau "rhyw garw".

Dywedodd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi cydsynio i gael rhyw a'i bod wedi gofyn iddo recordio'r digwyddiad fel rhan o chwarae r么l rywiol.

Mae鈥檔 gwadu dau gyhuddiad o dreisio - un o wneud i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol heb gysyniad a'r llall o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Rhybudd: Gallai'r cynnwys beri loes

Wedi'i wisgo mewn siwt las a thei, aeth i'r brifddinas ar 糯yl San Steffan y llynedd i ddathlu ei ben-blwydd gyda ffrind.

Dywedodd iddo gwrdd 芒鈥檙 ddynes y mae鈥檔 ei disgrifio fel 鈥済weithiwr rhyw鈥 wrth iddo gerdded drwy ganol y ddinas yn oriau m芒n 27 Rhagfyr.

Dywedodd iddi gynnig gweithred ryw iddo mewn l么n oddi ar Heol Eglwys Fair am 拢20.

Mae Mr Stimpson yn honni bod y ddynes, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi dwyn 拢250 oddi arno.

Dywedodd wrth y llys ei bod wedi cydsynio i gael rhyw pellach a cherddodd y p芒r o dan y bont reilffordd yn agos at orsaf ganolog y brifddinas.

Mewn cyfres o glipiau fideo a ddangoswyd i'r rheithgor, gellir gweld y ddynes yn noeth. Roedd hi'n gwaedu a'i llygad dde wedi chwyddo - anafiadau a gafodd wedi iddi ddisgyn ar ei ffordd i'r bont, medd Mr Stimpson.

Yn un rhan o'r fideo mae hi i'w gweld yn gwasgu ei dwylo mewn gweddi, mae dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb, a gellir ei chlywed yn dweud: "Paid 芒 curo fi, babi, paid 芒'm curo plis."

Mae Mr Stimpson yn honni eu bod wedi trafod beth fyddai'n digwydd yn y chwarae r么l cyn iddo ddechrau recordio, gan ddweud wrth y llys, "roedd popeth yn gydsyniol".

"Gallai hi fod wedi gadael ar unrhyw adeg o'i hewyllys ei hun," meddai.

Mae鈥檙 achos yn parhau.