大象传媒

Gallai biliau d诺r yn Nghymru gynyddu 拢137 dros 5 mlynedd

Potel ddwr yn cael ei llenwiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall biliau D诺r Cymru godi 拢137 dros 5 mlynedd, gan ariannu gwelliannau fel pibellau newydd a llai o garthion

  • Cyhoeddwyd

Mae Ofwat wedi cyhoeddi y gallai biliau d诺r ar gyfartaledd godi 拢94 dros y pum mlynedd nesaf yng Nghymru a Lloegr.

Gyda'r cynnydd blynyddol o 拢19 ar gyfartaledd - y bwriad yw buddsoddi mewn meysydd sydd angen gwelliannau fel pibau sy'n gollwng.

Bydd yr union gynnydd yn amrywio o ardal i ardal - amcangyfrifir y gall biliau cwsmeriaid D诺r Cymru gynyddu 拢137.

Mae pob cwmni d诺r yn creu cynllun pum mlynedd ar gyfer pa wasanaethau y maen nhw'n bwriadu eu cynnig a phris y d诺r i gwsmeriaid.

Gall cwsmeriaid cwmni Hafren Dyfrdwy ddisgwyl cynnydd o 拢128 dros y pum mlynedd nesaf.

Er bod y rheoleiddiwr yn gosod terfynau, yn y pen draw y cwmn茂au d诺r sy鈥檔 penderfynu ar y pris terfynol.

Mae disgwyl y penderfyniad terfynol ym mis Rhagfyr.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Steve Reed, yn cwrdd 芒 phrif weithredwyr cwmn茂au d诺r ddydd Iau i drafod perfformiad a gwelliannau posibl.

Disgrifiodd Prif Weithredwr Ofwat, David Black, y cynllun fel y buddsoddiad mwyaf erioed yn y sector d诺r ac ychwanegodd mai'r nod yw cyflwyno gwelliannau yn y gwasanaeth i gwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd.

Dywedodd hefyd ei fod yn bryderus am faint o fonws y mae prif weithredwyr wedi'i dderbyn.

Bydd y prisiau newydd yn dod i rym o fis Ebrill ymlaen.

Pynciau cysylltiedig