Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar fachgen 14 oed
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr elusennol o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am ymosod yn rhywiol ar fachgen yn ei arddegau.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Andrew MacKenzie, 55, wedi addo prynu ff么n symudol i'r bachgen pe bai'n cael rhyw gydag ef.
Yn dilyn achos fis diwethaf cafwyd MacKenzie yn euog o bedwar cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn 14 oed ar ddau achlysur gwahanol ym mis Mai 2021.
Digwyddodd yr ymosodiadau yng nghefn siop goffi yng Nghaerdydd - siop yr oedd MacKenzie yn gyfrifol amdani.
Roedd yr elw o siop 'Coffee and Cakes' yn cefnogi cwmni o'r enw 'Poor and Hungry' oedd yn cynnig prydau bwyd i bobl fregus.
- Cyhoeddwyd17 Mai
Clywodd yr achos fod y bachgen wedi mynd i'r caban ar ddau achlysur ym Mai 2021.
Dywedodd wrth yr heddlu bod MacKenzie wedi'i gusanu ac wedi cyflawni gweithredoedd rhyw arno.
Dywedodd wrth dditectifs bod y diffinydd wedi rhoi 拢100 iddo ar 么l yr ymosodiad cyntaf.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y gwrandawiad dedfrydu, dywedodd y bachgen bod yr ymosodiad wedi cael effaith sylweddol ar ei fywyd a'i fod yn cael hunllefau.
Dywedodd ei fod yn fachgen na茂f 14 oed adeg yr ymosodiadau, ac er ei fod yn gwybod bod yr hyn ddigwyddodd yn anghyfreithlon, nid oedd yn sylweddoli'n llawn pa mor ddrwg oedd yr hyn ddigwyddodd, ond bellach mae ganddo well dealltwriaeth.
Dywedodd bod ei fywyd wedi gwaethygu yn sgil yr hyn ddigwyddodd, wrth i'w berthynas gyda'i fam ddirywio, ac fe gafodd drafferthion gyda'i addysg.
'Poeni am neb ond eich hun'
Ar 么l i Andrew MacKenzie gael ei ganfod yn euog dywedodd y bachgen ei fod yn obeithiol y bydd yn gallu symud ymlaen gyda'i fywyd a'i fod yn teimlo bod pwysau wedi codi oddi arno ond ychwanegodd y bydd yn rhaid iddo fyw gyda'r hyn ddigwyddodd am weddill ei oes.
Roedd MacKenzie wedi honni ei fod wedi troi dalen newydd ar 么l troi at Dduw ar 么l bywyd o dorcyfraith - pan gafodd ei garcharu ar sawl achlysur am dwyll a chyflenwi cyffuriau.
Clywodd y llys ei fod yn mynd 芒 dynion i'r "caban" yng nghefn y siop lle roedd yn eu talu i gael rhyw ag ef, a'i fod wedi dod i gysylltiad 芒'r bachgen trwy un o'r dynion hynny.
Yn 么l y Barnwr Shoman Khan, roedd wedi dangos diffyg parch llwyr tuag at y dynion - "roeddech chi'n poeni am neb ond chi eich hun", meddai wrtho.
Dywedodd wrtho ei fod yn si诺r ei fod wedi cael gwybod cyn yr ymosodiadau mai dim ond 14 oed oedd y bachgen.
"Rwy'n si诺r eich bod wedi bod yn meithrin perthynas amhriodol gydag ef, neu groomio," meddai'r barnwr.
Clywodd y llys bod MacKenzie yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog, ond wrth iddo gael ei hebrwng o'r llys, fe ddywedodd "sori" wrth deulu'r bachgen oedd yn y llys.
Cafodd Andrew MacKenzie ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf hanner y cyfnod dan glo cyn cael ei ryddhau ar drwydded.
Fe fydd yn gorfod cadw at amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am weddill ei oes, sy'n cynnwys peidio 芒 chysylltu ag unrhyw dan 18 oed trwy gyfrwng electroneg.