S4C: 'Embaras' gwario 拢500,000 ar ymchwiliad bwlio
- Cyhoeddwyd
Mae'n destun "ychydig o embaras" fod S4C wedi gwario dros 拢500,000 ar ymchwilio i honiadau o fwlio, medd y cadeirydd dros dro.
Ond yn 么l Guto Bebb mae'r darlledwr yn "symud i'r cyfeiriad cywir" o'i herwydd.
Daeth i'r amlwg yn adroddiad blynyddol S4C bod 拢564,000 wedi ei wario ar 鈥測r ymarfer canfod ffeithiau鈥 a gafodd ei gynnal gan gwmni Capital Law.
Cafodd y cwmni cyfreithiol eu cyflogi ym mis Mai 2023 wedi i undeb BECTU godi 鈥減ryderon difrifol鈥 am yr amgylchedd waith yn S4C.
鈥淵n sicr, mae unrhyw gorff cyhoeddus sydd yn gwario gymaint o arian ar gyngor cyfreithiol yn mynd i deimlo 'chydig o embaras am y mater," meddai Mr Bebb.
"Ond wrth gwrs mi oedd 'na gyfrifoldeb arnon ni fel Awdurdod S4C i sicrhau bod y cwynion daeth i'n sylw ni gan undeb BECTU yn cael sylw priodol."
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Roedd cost y broses yn uwch na'r disgwyl, medd Mr Bebb, gan fod mwy o bobl wedi ymateb na'r disgwyl.
Daeth yr arian o gronfeydd wrth gefn y sianel, gyda Mr Bebb yn dweud ei fod yn "gwbl hyderus" felly na fydd "dim effaith ar yr hyn 'dan ni鈥檔 weld ar y sgr卯n".
Ond ychwanegodd: "Bysa'n well gen i fod wedi gweld gwariant o 拢500,000 ar faterion eraill."
'Wedi bod yn ofalus yn ariannol'
Fe wnaeth "bron i 100" o bobl ymateb i ymchwiliad Capital Law, medd cadeirydd bwrdd S4C dros dro wrth raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.
Mae'r sianel bellach yn gweithio ar fynd i'r afael 芒'r "heriau amlwg ddaru'r adroddiad eu dangos i ni," gan gynnwys mwy o gefnogaeth o ran adnoddau dynol ac edrych ar ei dulliau llywodraethiant.
Hynny "er mwyn sicrhau nad ydyn ni ddim yn ailadrodd yr hyn welwyd dros y 18 mis diwethaf," medd Mr Bebb.
"[Dwi'n] gwbl hyderus ein bod ni鈥檔 symud i'r cyfeiriad cywir 鈥 ond da chi angen derbyn bod newid sefyllfa o鈥檙 fath yn mynd i gymryd amser."
Ychwanegodd bod y ffaith bod gan S4C ddigon o arian yn ei chronfeydd wrth gefn i dalu am yr ymchwiliad yn profi ei bod "wedi bod yn ofalus yn ariannol".
"Mae cronfeydd wrth gefn yn cael eu creu gan gwmn茂au yn benodol ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn."