Cynyddu dedfryd gyrrwr ifanc am ladd bachgen 13 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dedfryd gyrrwr wnaeth ladd bachgen 13 oed yn Rhondda Cynon Taf ar 么l ei daro gyda char wedi cael ei chynyddu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.
Bu farw Kaylan Hippsley dridiau ar 么l cael ei daro gan gar a oedd yn cael ei yrru gan Harley Whiteman, 19, ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun ar 29 Chwefror.
Cafodd Whiteman ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis dan glo yn Llys y Goron Merthyr Tydfil ym mis Ebrill.
Ond cafodd y ddedfryd ei chynyddu i naw blynedd ddydd Mercher, yn dilyn ap锚l gan deulu Kaylan Hippsley.
Roedd Whiteman, 19, wedi meddwi pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth y gyrrwr ffoi o'r safle ar 么l taro Kaylan, cyn dychwelyd ac ymddwyn yn sarhaus cyn cael ei arestio.
Wrth ei ddedfrydu fis Ebrill, dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins fod Kaylan wedi cael ei ladd wrth i Whiteman "anwybyddu rheolau'r ffordd", a bod ei ymddygiad wedi bod yn "wrthun a dienaid".
Doedd teulu Kaylan ddim yn hapus 芒'r ddedfryd ac fe ofynnon nhw i swyddfa'r Twrnai Cyffredinol drefnu adolygiad ohoni yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill