Esgusodwch Fi, Jeremy Miles...
- Cyhoeddwyd
Mae'n fwyaf adnabyddus fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru ond yn y gyfres newydd o bodlediad Esgusodwch Fi? cawn gyfle i glywed gan Jeremy Miles y person nid y gwleidydd.
Ymunodd 芒 Meilir Rhys Williams ac Iestyn Wyn yn Sgw芒r Canolog, Caerdydd ar ddiwrnod Pride Cymru 2023 i siarad am ei blentyndod a'i gyfnod fel dyn ifanc hoyw yn Llundain a'i obeithion i'r dyfodol.
Cerddoriaeth a'r capel yn help ar gyfer y dyfodol
鈥淩oeddwn i鈥檔 hapus iawn yn yr ysgol pan o鈥檔 i鈥檔 fach, o鈥檔 i鈥檔 joio,鈥 eglura wrth s么n am ei gyfnod yn Ysgol Gymraeg Pontarddulais (Ysgol Bryn Iago erbyn hyn.) 鈥淩o鈥檔 i鈥檔 eitha鈥 boring fi鈥檔 credu fel disgybl! Dim unrhyw hanesion rhy ddramatig. O鈥檔 i鈥檔 mwynhau ysgol.鈥
Creda fod y cyfleoedd a gafodd yn yr ysgol wedi cyfrannu at y math o waith mae鈥檔 ei wneud heddiw, a daeth llawer o rheiny gydag un o鈥檙 pethau yr oedd yn ei fwynhau fwyaf sef cerddoriaeth: 鈥淩o鈥檔 i鈥檔 eitha cerddorol. Ro鈥檔 i鈥檔 chwarae ym mand pres y pentref oedd yn ddiddorol achos o鈥檔 i cwrdd 芒 phobl wahanol i fyd yr ysgol ac roedden ni hefyd, fel teulu, yn mynd i鈥檙 capel so o鈥檔 i鈥檔 cael loads o gyfleoedd i wneud pethau cyhoeddus ar lwyfan, ar blatfform yn gynnar iawn.
"鈥橬es i ddechrau off yn canu鈥檙 cornet ond wedyn nes i 鈥榓rbenigo鈥 fel petai, mewn chwarae鈥檙 bariton a鈥檙 iwffoniwm. O鈥檔 i鈥檔 hoffi fe鈥檔 fawr iawn, so o鈥檔 i鈥檔 chwarae 鈥榙a鈥檙 band lleol 鈥 bob nos Sul o鈥檔 i鈥檔 ymarfer.
"O鈥檔 i鈥檔 teithio dros dde Cymru i lefydd yn y cymoedd fydden i byth wedi bod iddyn nhw o鈥檙 blaen i gystadlu mewn contests bandiau pres 鈥 oedd yn eitha cyffrous ar un lefel. 鈥楴es i hefyd chwarae gyda Band Pres Gorllewin Morgannwg pan oedd hwnnw鈥檔 beth a hefyd am flwyddyn nes i chwarae gyda Band Pres Cenedlaethol Cymru.鈥
Yn anffodus, meddai, dydy o ddim wedi parhau gyda chanu offerynnau gan iddo roi鈥檙 gorau iddi pan aeth i鈥檙 brifysgol yn Rhydychen i astudio鈥檙 gyfraith. Felly beth ysgogodd y newid trywydd a dewis gwleidyddiaeth?
鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 gyfreithiwr ifanc o鈥檔 i鈥檔 byw yn Llundain. O鈥檔 i鈥檔 byw yno am ryw ugain mlynedd a thrwy gydol y ddegawd gyntaf bydden i鈥檔 dweud o鈥檔 i鈥檔 weithredol iawn yn wleidyddol yn Llundain. Oedd e鈥檔 fwy o ddarganfod beth o鈥檔 i鈥檔 teimlo oedd, falle, beth ddylsen i wedi bod yn 鈥榥eud. Dyna beth oedd e, yn hytrach na mynd ar drywydd hollol wahanol.
"Oedd e鈥檔 rhannol ynghlwm 芒鈥檙 gwaith cyfreithiol o鈥檔 i鈥檔 ei wneud achos o鈥檔 i鈥檔 gwneud lot o waith gyda law centres yn darparu cyfraith am ddim i bobl oedd angen help. Felly ro鈥檔 i鈥檔 gweld ar lawr gwlad bod angen help ar bobl a roedd hynny鈥檔 cydsynio efo fy ngwleidyddiaeth i.
Cydraddoldeb a chynwysoldeb yn hollbwysig
"O鈥檔 i hefyd yn gwneud lot o waith yn nwyrain Llundain gyda chriw o bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol oedd moyn bod mewn byd gwleidyddol, cyfreithiol ond doedd dim y rhwydwaith, a dim y map ganddyn nhw i wneud hynny. So, o鈥檔 i鈥檔 eu mentora nhw a 鈥榬oedd hynny hefyd yn rhan o鈥檙 ysgogiad i benderfynu gwneud rhywbeth gwleidyddol.
"Doedd gen i byth yr hyder, i fod yn gwbl onest, i wneud y dewis hynny. O鈥檔 i jest ddim yn meddwl bod gennyf fi鈥檙 atebion i bopeth. 鈥橬es i gael rhyw fath o flash o ddealltwriaeth rhywbryd mae hi, actually, yn iawn i ddweud bod ganddoch chi ddim yr atebion i bopeth ac mai鈥檙 peth sydd wir yn bwysig yw鈥檙 gwerthoedd sydd gyda chi a鈥檆h parodrwydd i wneud rhywbeth amdano fe, a鈥檙 gallu i fod yn agored i ofyn y cwestiynau iawn. 鈥楴aeth hynny gael persw芒d arnaf, dweud y gwir, i newid trywydd.鈥
Ac o ran y gwerthoedd hynny, mae鈥檔 dweud mai rhoi cyfleoedd teg a sicrhau bod cymdeithas a鈥檙 byd addysg yn gynhwysol i bawb ydy鈥檙 prif rai. Er ei fod o鈥檔 gwybod ei fod yn hoyw yn ei arddegau, doedd ysgolion ar y pryd ddim yn arddel unrhyw fater LHDT ac erbyn ei gyfnod yn y brifysgol roedd y llywodraeth yn ceisio gweithredu cyfraith Adran 28 鈥 cyfraith a oedd yn gwahardd unrhyw drafodaeth am gyfunrywioldeb mewn ysgolion.
Dim cynrychioliaeth yn yr ysgol
鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwybod sut brofiad oedd bod yn yr ysgol heb unrhyw adlewyrchiad [o fy hunaniaeth] ac yna bod y llywodraeth yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ormesu plant a phobl ifanc oedd yn cwestiynu - neu arddegwyr oedd yn hoyw.
"Mae hynny yn rhywbeth hollol extraordinary 鈥 bod llywodraeth yn mynd allan o鈥檌 ffordd i ffendio ffordd ddyfeisgar newydd o wneud bywyd rhywun ifanc yn llai esmwyth. Felly roedd hynny鈥檔 rhywbeth o鈥檔 i鈥檔 ei wrthwynebu鈥檔 ffyrnig iawn. Ac mae cysgod hwnnw wedi cael ei daflu yn hir dw i鈥檔 credu. Wrth gwrs 鈥榙yw Secion 28 ddim yn gyfraith bellach ond mae ei effaith e wedi bod yn andwyol iawn am gyfnod.鈥
Ar y pryd fe brotestiodd yn erbyn gyfraith honno. Daeth Jeremy allan yn y brifysgol a dywedodd ei fod yn anodd iawn ar y pryd ond bod elfen wleidyddol wedi bod yn rhan o鈥檌 benderfyniad i ddod allan:
鈥淥edd angen i mi fod yn glir gyda fy hunan a hefyd gyda ffrindiau, ac yn y pendraw gyda theulu am bwy oeddwn i. O鈥檔 i鈥檔 teimlo fod popeth ynghlwm, rili, yr elfen wleidyddol a鈥檙 elfen bersonol.鈥
鈥淒w i鈥檔 falch fy mod i wedi cael fy ethol fel gwleidydd allan, hoyw a bod fy mhrofiad i o weithio gyda phobl yn yr etholaeth yn dangos i mi fod pobl ddim yn hidio. 鈥楧yw e ddim yn big deal i鈥檙 rhan fwyaf o bobl ac rwy鈥檔 teimlo鈥檔 falch am hynny.
"Nid bo鈥 fi wedi gwneud unrhyw beth ond 鈥榳y jyst yn teimlo鈥檔 falch bod cymdeithas wedi symud ymlaen gymaint achos bydden i byth wedi teimlo hynny pan oeddwn i鈥檔 wleidyddol weithgar ac am wn i yn meddwl 鈥榓lla i ddim 芒 bod yn actual gwleidydd achos does dim gwleidyddion hoyw i gael.鈥 Bydde fe jest yn rhy anodd. Wel, 鈥榙yw hynny ddim yn wir.
"Ond 鈥榙yw jest bod yn wleidydd hoyw ddim yn ddigon. Nid dyna鈥檙 job, y job yw gwneud rhywbeth gyda fe. A dyna pam mae鈥檙 gwaith dw i鈥檔 ceisio鈥檌 wneud yn teimlo鈥檔 bwysig.鈥
Gallwch wrando ar y bennod gyfan o Esgusodwch Fi? gyda Jeremy Miles ar 大象传媒 Sounds.