Dynes 91 wedi marw ar 么l cael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 91 oed wedi marw ar 么l cael ei tharo gan gar yn Rhisga, ger Casnewydd yn gynharach yn y mis.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i wrthdrawiad rhwng Audi A4 a cherddwr ar Heol Cromwell am 10:30 fore Sadwrn, 11 Tachwedd.
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty, ble chafodd ei thrin am anafiadau difrifol.
Dywed yr heddlu ei bod hi bellach wedi marw.
Mae'r heddlu yn rhoi cefnogaeth arbenigol i'w theulu ac mae'r llu yn apelio am fwy o wybodaeth.