Carchar yn bosib i bobl sy'n gosod conau i atal parcio tu allan i'w cartrefi
- Cyhoeddwyd
Fe allai pobl sy'n gosod conau t欧 allan i鈥檞 tai yn Aberystwyth er mwyn gwarchod mannau parcio wynebu hyd at 51 wythnos yn y carchar.
Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud hynny mewn llythyr at bobl sy鈥檔 byw ym Maes yr Afon ar 么l i rai geisio atal pobl eraill rhag parcio ar y stryd.
Dywedodd un sy'n byw ar y stryd ei bod yn ei dagrau ar 么l derbyn y llythyr a bod yn rhaid iddi gadw鈥檙 gwagle parcio yn agos i鈥檞 chartref oherwydd rhesymau iechyd.
Ond yn 么l y cyngor, mae'n ddyletswydd arnyn nhw i fynd i'r afael 芒'r mater.
Maes parcio gyferbyn
Dywedodd y cynghorydd tref Mair Benjamin ei bod hi wedi cael y conau ers dechrau'r flwyddyn ac yn eu defnyddio nhw i atal gyrwyr rhag parcio tu allan i鈥檞 th欧 - sy鈥檔 agos i ganol y dref.
Er bod maes parcio talu a pharcio yn agos, yn 么l Ms Benjamin, mae pobl yn aml yn parcio ar stryd Maes yr Afon ac ar hyd strydoedd preswylwyr eraill.
Mae鈥檔 costio 拢2.60 i barcio yn y maes parcio am awr, 拢6.60 am 24 awr a 拢23 am wythnos.
Mae pob t欧 ar stryd Maes yr Afon wedi derbyn llythyr gan Rhodri Llwyd, cyfarwyddwr corfforaethol Cyngor Ceredigion ar gyfer y priffyrdd.
Mae鈥檔 nodi bod 鈥渞hai trigolion鈥 wedi bod yn gosod 鈥渃onau traffig a/neu wrthrychau eraill i warchod mannau parcio ar gyfer cerbydau eu hunain鈥.
Mae鈥檙 llythyr yn mynd ymlaen i ddweud bod y gwrthrychau yma yn "gyfystyr 芒 rhwystrau diangen ar y briffordd".
"Os yw person heb awdurdod cyfreithlon neu esgus mewn unrhyw ffordd i rwystro'r briffordd (maent yn euog) o drosedd ac yn agored i garchar am gyfnod hyd at 51 wythnos neu ddirwy, neu'r ddau."
'Digwydd trwy'r amser'
Dywedodd Ms Benjamin ei bod wedi "siomi" pan ddarllenodd y llythyr.
"Fe wnes i grio. Allwn i ddim credu sut o'n i'n teimlo," meddai.
鈥淥鈥檔 i'n meddwl na allen nhw hyd yn oed anfon llythyr i ofyn am gyfarfod i drafod y mater? Allwch chi ddod ag ychydig o bobl at ei gilydd? Allwn ni siarad am hyn?
"Na, dim ond dweud bod ni鈥檔 achosi rhwystr. Gallwch gael 51 wythnos yn y carchar a dirwy.鈥
Roedd Paul Wright, sydd hefyd yn byw ar stryd Maes yr Afon, yn arfer rhoi conau tu allan i鈥檞 d欧 cyn iddo werthu ei gar.
Cyfeiriodd at un achos lle'r oedd car wedi parcio tu allan i鈥檞 d欧 am bum wythnos.
鈥淒o fe wnes i roi nhw allan weithiau, i arbed y lle parcio," meddai.
"Pryd bynnag nes i symud fy nghar, o鈥檔 i byth yn gallu dod 'n么l mewn, odd yn rhaid i mi dalu yn y maes parcio, sy'n anghywir yn fy marn i, fel rhywun sy鈥檔 byw yma, yn berchen ar fy nh欧.
"Ro鈥檇d hwn yn digwydd trwy鈥檙 amser," meddai.
Mae Mr Wright a Ms Benjamin yn dweud y dylai Cyngor Ceredigion sefydlu system parcio trwyddedau i breswylwyr ar gyfer pobl sy'n byw ym Maes yr Afon.
Dywedodd Mr Wright: "Dylai parcio fod i breswylwyr ar yr ochr hon i'r ffordd lle maen nhw鈥檔 byw, ac nid yr ochr honno. Byddai'n datrys y cyfan yn llwyr."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae gosod eitemau ar y briffordd gyhoeddus heb ganiat芒d a thrwy hynny achosi rhwystr yn drosedd o dan Adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980, ac oherwydd mae'r rhai sy'n gweithredu yn groes i'r gyfraith, ac ni fyddai'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd pe na bai'n ceisio mynd i'r afael 芒'r mater.
"Os yw'r preswylwyr yn dymuno, yna gallant brynu tocyn parcio tymhorol ar gyfer y maes parcio sydd gyferbyn yn uniongyrchol 芒'u heiddo."