Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ail Ryfel Byd: Cofio damwain awyren ar y Preselau
Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group
- Awdur, Sara Dafydd
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Ar 19 Medi 1944 fe glywodd trigolion Mynachlog-ddu s诺n byddarol damwain awyren o gyfeiriad y Preselau.
Fe darodd awyren fomio y Liberator, a oedd wedi'i lleoli yng Nghernyw, yn erbyn y bryniau gerllaw.
Bu farw chwech o filwyr yr Awyrlu a chafodd tri eu hanafu.
80 mlynedd ers y digwyddiad mae pobl leol wedi bod yn cerdded i safle'r ddamwain i gofio'r dioddefwyr.
Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru
Cafodd y Pembrokeshire Aviation Group ei sefydlu 40 mlynedd yn 么l i gofio鈥檙 digwyddiad ac i drefnu plac ar safle鈥檙 ddamwain.
鈥淩ydym yn falch ein bod wedi gallu gosod cofeb yma 40 mlynedd yn 么l. Gall cerddwyr ddod ar draws hyn, i fyfyrio ar yr enwau a gweld bod rhywbeth erchyll wedi digwydd yma,鈥 medd John Evans, sefydlydd y gr诺p.
Ychwanegodd: 鈥淲rth i鈥檙 blynyddoedd fynd yn eu blaenau a鈥檙 Ail Ryfel Byd yn diflannu i'r llyfrau hanes mae鈥檔 bwysig bod gennym ni bethau fel hyn yma.鈥
Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru
Yn 么l Hefin Wyn, hanesydd lleol, mae鈥檙 digwyddiad yn rhan o 鈥済of gwerin yr ardal鈥.
鈥淢ae rhai pobl leol yn cofio bod hi鈥檔 noson ffair Maenclochog ac wrth i rai ohonyn nhw fynd adref am 11 o鈥檙 gloch dyma nhw鈥檔 gweld pelen mawr o d芒n yn dod o鈥檙 mynydd.
鈥淢ae鈥檔 syndod wrth edrych lawr fan hyn does dim eithin grug, porfa na dim byd wedi tyfu lle glaniodd yr awyren,鈥 meddai.
Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru
Mae鈥檔 debyg pe bai'r awyren wedi bod yn hedfan ychydig droedfeddi'n uwch y byddai'r ddamwain wedi ei hosgoi.
Doedd y criw, o dan arweiniad Stan Kearney yn St Eval yng Nghernyw, ddim ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw ond fe gawson nhw gynnig llong danfor ar gyfer ymarfer.
Doedd dim modd defnyddio鈥檙 llong danfor ac felly fe benderfynon nhw hedfan yr awyren EV881.
Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group
Aeth holl aelodau'r criw ar yr awyren ar fyr rybudd, gan adael un - Danny Quinn - ar 么l drwy gamgymeriad.
Flynyddoedd wedyn, soniodd Quinn am ei euogrwydd gan ddweud: "Y bore wedyn sylweddolais nad oedd y criw wedi dychwelyd ac ro'n i methu deall beth oedd wedi digwydd.
"Wedyn dyma ffrind yn dweud wrthai bod criw Stan Kearey wedi cael damwain ym mryniau Cymru."
Roedd y Swyddog Gwarant, Stan Kearney, wedi priodi dair wythnos ynghynt.
Mae rhai o鈥檙 criw wedi鈥檜 claddu ym Mynwent City Road yn Hwlffordd, gan gynnwys y Swyddog Gwarant, Billy Soroski; y Rhingyll John Duncan Boyd o Ganada, a dau o griw鈥檙 Awyrlu - y Rhingyll Hedfan Robert Evans a鈥檙 Rhingyll Albert Humphries.
Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group
Ar y pryd nododd cofnodion mis Medi llyfr y sgwadron: "Am tua 22:50 o鈥檙 gloch ar Fedi 19, yn ystod oriau鈥檙 nos hedfanodd awyrennau EV881, dan arweiniad W/O Kearey, i gopa bryn 4 milltir i鈥檙 gogledd ddwyrain o Faenclochog, De Cymru.
"Aeth yr a/c ar d芒n a lladdwyd W/O Kearey a phedwar o'r criw; bu farw un arall yn yr ysbyty a chafodd y tri arall eu hanafu a'u cadw yn yr ysbyty.
"Credir mai camgymeriad mordwyo oedd achos y ddamwain wrth i'r criw gael eu briffio i fynd ymlaen i ymarfer 'Oasthouse' trwy'r Smalls Light'."