Moore, Burns a Beck ddim ar gael i wynebu Twrci a Gwlad yr I芒
- Cyhoeddwyd
Mae Kieffer Moore wedi tynnu allan o garfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Twrci a Gwlad yr I芒.
Fe anafodd ymosodwr Sheffield United ei goes yn ystod buddugoliaeth ddiweddar y Blades yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth.
Mae Moore ymhlith tri chwaraewr sydd wedi tynnu allan o garfan y rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y g锚m yn erbyn Twrci yn Kayseri ddydd Sadwrn, ac ymweliad Gwlad yr I芒 芒 Chaerdydd dridiau'n ddiweddarach.
Mae鈥檙 asgellwr Wes Burns a'r amddiffynnwr Owen Beck hefyd wedi'u hanafu.
Mae Bellamy wedi galw鈥檙 amddiffynnwr Jay Dasilva o Coventry, Charlie Savage o Reading, a Luke Harris o Birmingham i'r garfan i gymryd eu lle.
Mae Cymru eisoes heb y capten Aaron Ramsey, Ethan Ampadu o Leeds United ac Ollie Cooper o Abertawe oherwydd anafiadau.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ail yn eu gr诺p y tu 么l i Dwrci ar 么l ennill dwy g锚m a chael dwy g锚m gyfartal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd