Cynghorwyr Wrecsam yn cael mynd ag achos i'r Llys Ap锚l
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Wrecsam sy'n gwrthwynebu cynllun datblygu lleol (CDLl) wedi cael gwybod y gall eu hachos gael ei glywed yn y Llys Ap锚l.
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y cynllun fis Rhagfyr diwethaf ar 么l i farnwr ddweud bod yn rhaid iddyn nhw ei fabwysiadu.
Roedd aelodau wedi cael gwybod y gallen nhw wynebu carchar am ddirmyg llys petaen nhw'n pleidleisio yn erbyn y cynllun.
Doedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddim am wneud sylw ar benderfyniad y Llys Ap锚l.
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
Mae鈥檔 rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gael cynllun datblygu lleol sy'n amlinellu defnydd tir ar gyfer y dyfodol.
Ond mae'r cynllun yn Wrecsam wedi bod yn ddadleuol ac mae cynghorwyr wedi pleidleisio yn ei erbyn ddwywaith.
Mae鈥檔 cynnwys datblygu 8,000 o dai ynghyd 芒 chynlluniau isadeiledd eraill.
Fis Tachwedd 2023 enillodd gr诺p o ddatblygwyr tir Adolygiad Barnwrol, gyda鈥檙 barnwr yn dyfarnu na allai鈥檙 awdurdod lleol wrthod mabwysiadu鈥檙 cynllun.
Ar ran cynghorwyr o wahanol bleidiau, mae cynghorydd ward Grosvenor Plaid Cymru, Marc Jones, bellach wedi cael gwybod y gall apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Yn y Llys Ap锚l, dywedodd yr Arglwydd Ustus Lewison fod gan yr ap锚l 鈥渙baith gwirioneddol o lwyddiant鈥 a鈥檌 fod yn 鈥渃odi pwynt pwysig o egwyddor鈥.
Wrth ymateb i鈥檙 caniat芒d i apelio, dywedodd cynghorwyr sy鈥檔 gwrthwynebu鈥檙 cynllun ei fod yn 鈥渄datblygiad arwyddocaol iawn.鈥
鈥淢ae鈥檔 cydnabod bod yna fudd cyhoeddus sylweddol i gynghorwyr yn cael eu gorfodi, ar fygythiad o garchar neu ddirwyon, i fabwysiadu cynllun yr oeddent wedi pleidleisio yn ei erbyn ddwywaith oherwydd eu bod yn credu nad oedd er lles gorau鈥檙 bobl y maent yn eu cynrychioli.鈥
Yn dilyn yr Adolygiad Barnwrol, cafodd cynghorwyr wybod y gallai鈥檙 awdurdod lleol fod mewn dirmyg llys pe bai'n pleidleisio yn erbyn y cynllun eto.
Roedd y cyngor cyfreithiol gan swyddogion y cyngor yn dweud pe bai鈥檙 barnwr yn canfod y cyngor mewn dirmyg llys, fe allai wneud gorchymyn yn erbyn cynghorwyr unigol, gyda chosbau posib yn cynnwys 鈥渃yfnod o garchar, dirwy, atafaelu asedau neu gosb arall a ganiateir gan y gyfraith.鈥
Fe ofynnodd 大象传媒 Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ymateb i ganiatau鈥檙 ap锚l, ond doedd yr awdurdod lleol ddim am wneud sylw.