Penodi Nelson Jardim yn rheolwr newydd Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Casnewydd wedi penodi Nelson Jardim fel eu rheolwr newydd.
Mae'r g诺r o Bortiwgal yn olynu Graham Coughlan, a adawodd Rodney Parade ym mis Mehefin wedi i'r clwb ddweud eu bod eisiau symud "i gyfeiriad gwahanol".
Fe ymunodd Jardim 芒'r Alltudion fel "prif hyfforddwr" yn y lle cyntaf, yn gynharach y mis hwn, ond fe ddywedodd y clwb ar y pryd eu bod "yn parhau i chwilio" am reolwr newydd.
Mae Jardim eisoes wedi bod yn gyfrifol am y paratoadau cyn dechrau'r tymor newydd yn Adran Dau.
Dywedodd cadeirydd Casnewydd, Huw Jenkins, ei fod "eisoes wedi cael effaith fawr" yn yr wythnosau diwethaf, ac wedi "bod yn allweddol o ran helpu creu teimlad cryf, positif o amgylch y clwb".
Mae Jardim wedi treulio cyfnodau fel hyfforddwr gydag Abertawe pan roedd Jenkins yn gadeirydd ar yr Elyrch, ac mae hefyd wedi gweithio gyda chlybiau Caerl欧r, Nacional yn Sbaen, Birmingham City a Maritimo B ym Mhortiwgal.