Arestio dau mewn cysylltiad 芒 thwyll yn ymwneud 芒 thocynnau
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio gan swyddogion sy'n ymchwilio i honiadau o "dwyll difrifol yn ymwneud 芒 thocynnau" sy'n gysylltiedig 芒 chyngherddau yng Nghaerdydd.
Cafodd dynes 32 o Gastell-nedd a dyn 27 o Gaerdydd eu harestio ar amheuaeth o dwyll.
Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechn茂aeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Yn 么l y Ditectif Sarjant Grant Phillips, mae Heddlu'r De wedi bod yn ymchwilio i "dwyll tocynnau ar raddfa fawr drwy gr诺p WhatsApp a hynny'n ymwneud 芒 chyngherddau yng Nghaerdydd".
Dywedodd bod yr heddlu yng nghanol y broses o gysylltu gyda'r rhai sydd yn rhan o'r gr诺p WhatsApp.
Mae tua 30 o gyngherddau yng Nghaerdydd dros yr haf, gyda Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Fawrth, wythnos ar 么l i Pink berfformio yno.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mehefin