大象传媒

Pobl ag anawsterau dysgu yn cael eu 'cloi i ffwrdd'

Dawn a Jack CavanaghFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jack Cavanagh yn 21 oed ac yn byw gydag anhawster dysgu, awtistiaeth, epilepsi ac ADHD

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl gydag anawsterau dysgu yng Nghymru yn cael eu "cloi i ffwrdd" mewn canolfannau ac unedau diogel, yn hytrach na derbyn gofal yn y gymuned, yn 么l gr诺p ymgyrchu.

Mae gr诺p Stolen Lives wedi llunio deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Yn 么l Dawn Cavanagh, sylfaenydd y gr诺p, mae pobl sy'n byw ag anableddau "wastad yn cael eu hanghofio".

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr awgrym fod pobl yn cael eu cadw mewn achosion lle nad oedd hynny'n addas, gan ychwanegu eu bod yn ystyried gofal i bobl fregus fel mater difrifol iawn.

Dywedodd Dawn Cavanagh, sy'n byw ym mhentref Hook yn Sir Benfro, ei bod wedi dechrau ymgyrchu wedi'r profiad "trawmatig" o orfod dod o hyd i ofal addas i'w mab.

Mae Jack yn 21 oed ac yn byw gydag anhawster dysgu, awtistiaeth, epilepsi ac ADHD.

Mae'r anableddau hyn yn cael effaith "eithaf difrifol" arno, yn 么l Ms Cavanagh, ond ers iddo droi'n 16 mae wedi cael ei roi mewn "sefydliadau anaddas" - gan amlaf mewn ysbytai.

"Un o'r problemau yw bod pobl wedi dweud wrthym ni ein bod ni ond yn un achos unigol," meddai.

"Wnes i benderfynu dechrau gr诺p i ddangos i bobl, ac i ddweud 'drychwch, gallwch chi ddim parhau i anwybyddu ni gyd un ar y tro'.

"Roedd diddordeb gen i hefyd mewn dod o hyd i bobl eraill tebyg. Doedd dim posib mai fi oedd yr unig un."

'Dim p诺er gennym ni fel rhieni'

Mae teuluoedd ledled Cymru bellach yn rhan o'r gr诺p, a ddaeth ynghyd y tu allan i'r Senedd ddydd Mercher ar gyfer lansiad y ddeiseb.

Yn 么l Ms Cavanagh, mae nifer o bobl yn rhwystredig ac wedi dychryn.

"Dwi'n meddwl bod nifer o deuluoedd ofn dweud eu dweud gan eu bod yn poeni am y sgil effeithiau.

"Maen nhw'n poeni y bydd rhywun maen nhw'n ei garu yn cael eu symud ganol nos i ysbyty arall... yn poeni y gallen nhw gael eu symud i Loegr. Dyna yw'r pryder mawr.

"Does dim p诺er gennym ni fel rhieni. Maen nhw'n cymryd hynny oddi wrthych chi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd deiseb ei lansio y tu allan i'r Senedd ddydd Mercher

Mae gan y gr诺p faniffesto hefyd sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data yn ymwneud 芒 nifer y bobl sydd ag anawsterau dysgu sy'n cael eu cadw mewn ysbytai neu unedau diogel.

Ychwanegodd Ms Cavanagh: "Ry'n ni yma... ry'n ni'n mynd i godi'n lleisiau a mynnu bod y llywodraeth yn ein clywed.

"Mae hyn mor bwysig. Mae'r teuluoedd yma yn teimlo'n unig gan eu bod yn cael eu hanwybyddu."

'Dim clem lle o'dd hi'n mynd'

Yn 2014, yn groes i ddymuniad ei rhieni, fe gafodd Claire Dyer, sy'n awtistig ac ag anawsterau dysgu, ei hanfon o uned yn Abertawe i uned ddiogel yn Brighton.

Ym marn staff oedd yn gofalu amdani roedd ei hymddygiad yn rhy heriol.

"O'dd neb yn gallu gweud hwyl fawr iddi," meddai ei mam, Cath Dyer wrth raglen Post Prynhawn.

"O'dd dim clem gyda hi ble o'dd hi'n mynd [ac am gyfnod] nag o'n ni'n gwybod fel teulu pryd bydden ni'n cael y siawns i weld Claire eto.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Cath Dyer nad oedd modd iddi atal penderfyniad i symud ei merch awtistig i uned "anaddas" yn Brighton yn 2014

"O'dd hi mewn gyda llofrudd... o'dd e'n ofnadwy. O'dd neb yn deall awtistiaeth o gwbwl, a Claire, gydag anableddau dysgu hefyd, o'dd hi ddim yn deall lot o beth o' nhw'n gweud."

Roedd "hawl" i'w gweld, gyda staff yr uned yn bresennol, am ddwy awr am 10:00, oedd yn golygu gadael Abertawe am 05:00 a chyrraedd adref dros 12 awr yn ddiweddarach.

Roedd yn "amser caled" i'r teulu, meddai, gan bod ei g诺r yn gweithio llawn amser a'i mab yn ei flwyddyn TGAU.

"O'n i fel mam, fel rhiant, yn gw'bod doedd hi ddim yn y lle iawn."

Ffynhonnell y llun, Cath Dyer
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Claire adref gyda'i theulu yn Abertawe ers dros naw mlynedd erbyn hyn

Aeth Cath Dyer ati i "e-bostio pawb a phopeth" yn Abertawe a Brighton, ac fe drefnodd ddeiseb a ddenodd dros 96,000 o lofnodion.

Dri mis ar 么l i Claire gyrraedd Brighton fe ddychwelodd adref, ac roedd staff gofal yn cefnogi'r teulu trwy fynd 芒 hi allan bob diwrnod.

Ers dod dan ofal cwmni gofal lleol yn 2021, dywed ei mam ei bod yn ffynnu.

"Heddi mae 'di dod gartre' ac wedi rhedeg hanner marathon am y tro cyntaf... mae hi'n joio," meddai.

Ychwanegodd fod y darparwyr gofal yma "yn gwrando arnon ni".

Llywodraeth 'ddim yn cytuno'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gofal pobl fregus yn fater difrifol iawn ac ry'n ni wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl sydd ag anawsterau dysgu sy'n cael eu cadw mewn ysbytai.

"Dydyn ni ddim yn cytuno fod y system bresennol yn arwain at gadw pobl mewn unedau iechyd meddwl lle nad yw hynny'n addas.

"Pan mae pobl ag anawsterau dysgu yn cael eu rhoi mewn uned iechyd meddwl. Mae'n gwbl hanfodol eu bod nhw'n derbyn gofal sydd yn addas ar gyfer eu hanghenion penodol nhw.

"Mae hyn yn golygu bod angen cynllun gofal penodol ar eu cyfer, sydd yn cael ei adolygu yn gyson, a bod cynlluniau ac opsiynau o ran llety yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn llawn.

"Mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio i sicrhau bod llety digonol ac addas yn cael ei ddarparu mewn cymunedau lleol er mwyn hwyluso'r broses i unigolion sy'n gadael ysbytai."

Ychwanegon nhw fod data gan fyrddau iechyd yn awgrymu bod tua 140 o gleifion o Gymru mewn gwasanaethau cleifion mewnol arbenigol yng Nghymru a Lloegr.