大象传媒

Streic meddygon iau i effeithio ar filoedd o apwyntiadau

Meddygon iau ar streic yn Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r meddygon iau aeth ar streic yn Ysbyty Gwynedd ym mis Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Bydd miloedd o apwyntiadau a thriniaethau'n cael eu gohirio unwaith eto yr wythnos hon wrth i feddygon iau streicio.

Bydd y gweithredu diwydiannol yn dechrau am 07:00 ddydd Mercher ac yn para am dridiau.

Cafodd 22,258 o apwyntiadau allanol, a 1,467 o driniaethau eu gohirio yn ystod eu streic ddiwethaf ym mis Ionawr.

Mae undeb y BMA wedi gwrthod cynnig cyflog o 5% gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud nad oes rhagor o arian i'w gynnig.

Bydd gofal brys yn parhau yn ystod y streic, a fydd yn dod i ben am 07:00 ddydd Sadwrn 24 Chwefror, ond mae gofyn i'r cyhoedd i beidio defnyddio'r ysbytai oni bai eu bod angen gofal brys.

Y cyngor i gleifion yw i gadw unrhyw apwyntiadau oni bai bod rhywun o'r bwrdd iechyd yn cysylltu i aildrefnu.

Mae disgwyl i lefel staffio ysbytai yn ystod cyfnod y streic fod yn debyg i wyliau banc.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 4,000 o feddygon iau yng Nghymru ac mae disgwyl i'r mwyafrif streicio ddydd Mercher

Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget: "Rydym yn disgwyl i driniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw gael eu heffeithio'n sylweddol yn ystod y gweithredu diwydiannol, gyda llawer o waith eisoes wedi鈥檌 ohirio.

"Yn ystod y streic ddiwethaf cafodd tua 41% o apwyntiadau cleifion allanol a 61% o lawdriniaethau eu gohirio ledled Cymru."

Yn 么l Iechyd a Gofal Digidol Cymru, roedd yna 13,700 o apwyntiadau cleifion allanol bob diwrnod gwaith yng Nghymru yn 2023 - ar 诺yl banc, fe ostyngodd y ffigwr i 317 ar gyfartaledd.

Ddydd Mercher, fe fydd tua 3,000 o aelodau'r BMA yng Nghymru yn gweithredu'n ddiwydiannol am dridiau mewn ymdrech i sicrhau cyflogau uwch.

Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion y BMA yng Nghymru: "Nid oes unrhyw feddyg eisiau streicio, ond tra bod y rhai sydd mewn grym yn methu 芒 deall difrifoldeb y sefyllfa a chryfder teimladau ein haelodau, rydym yn teimlo ein bod ni wedi cael ein gadael heb ddewis."

Ychwanegon nhw: "Dydyn ni ddim yn gofyn am godiad cyflog 鈥 rydyn ni鈥檔 gofyn i鈥檔 cyflog gael ei adfer yn unol 芒 chwyddiant yn 么l i lefelau 2008, pan ddechreuon ni dderbyn toriadau cyflog mewn termau real.

"Mae angen i gyflogau fod yn deg ac yn gystadleuol gyda systemau gofal iechyd eraill ar draws y byd i gadw a recriwtio meddygon a staff y gwasanaeth iechyd ac i ddarparu gofal y mae mawr ei angen."

'Rydym wedi cyrraedd pen tennyn'

鈥淵n sicr dim dyma rydyn ni eisiau bod yn ei wneud - rydyn ni eisiau bod yn y gwaith yn helpu cleifion fel rydyn ni鈥檔 gwneud bob dydd yn y gwaith," dywedodd Dr Owain Williams, sy'n gweithio yn adran pediatrig Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.

"Ond gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnig gwell i ni o ran adfer ein cyflog, y cyflog rydyn ni wedi鈥檌 golli dros gyfnod o bymtheg mlynedd, dyma鈥檙 unig opsiwn sydd gyda ni.

"Yn sicr mae鈥檔 siom ond mae o hefyd yn anghenreidiol. Rydyn ni wedi cyrraedd pen tennyn fel criw o bobl, fel gweithwyr, fel meddygon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Dr Owain Williams yn streicio eto yr wythnos yma, er nad dyna ei ddymuniad

鈥淩ydyn ni鈥檔 gweithio mewn amodau gwael, rydyn ni鈥檔 cael ein talu鈥檔 wael o gymharu 芒 beth roedden ni鈥檔 cael ein talu flynyddoedd yn 么l a rydyn ni wedi cael digon i fod yn onest.

"Dyna pam mae rhai ohonon ni鈥檔 symud i bedwar ban arall y byd i dderbyn cyflog ac amodau call.

"Dwi鈥檔 deall bod effaith ar gleifion yn ystod cyfnod y streic. Mae gyda ni ffrindiau a teulu sydd ar restrau aros a dyna pam mae鈥檙 dewis i streicio yn un anodd ond rydyn ni wedi cael digon a wir wedi blino ar y sefyllfa.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cannoedd o feddygon iau tu fas i'r Senedd ym Mae Caerdydd ar gyfer rali yn ystod y streic gyntaf ym mis Ionawr

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod Llywodraeth Cymru "bob amser yn agored" i drafodaethau pellach.

"Rydym ni'n siomedig bod meddygon iau wedi penderfynu gweithredu鈥檔 ddiwydiannol eto yng Nghymru, ond rydym ni'n deall eu cryfder teimlad dros ein cynnig cyflog o 5%," meddai.

"Dyna'r cynnydd mwyaf gallen ni roi ar y bwrdd ac mae hynny'n adlewyrchu鈥檙 sefyllfa a gyrhaeddwyd gyda鈥檙 undebau iechyd eraill.

"Ond byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo鈥檙 cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus."

Mae'r BMA yng Nghymru yn bwriadu cynnal streic arall ar gyfer 25 Mawrth hefyd.