'Anodd cael cymorth iechyd meddwl yn y Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
鈥淒dylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw.鈥
Dyna neges elusen iechyd meddwl, sy鈥檔 dweud ei fod yn hanfodol i bobl gael cymorth yn yr iaith maen nhw鈥檔 dymuno.
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Newyddion S4C i'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos mai 30 o gwnselwyr trwy'r wlad sy'n cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn hanfodol fod pobl yn cael gwasanaeth yn yr iaith maen nhw'n dymuno, a'u bod yn gweithio tuag at gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
'Rhwystredig'
Mae Elen Wyn Jones o Ynys M么n wedi bod yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl ers ei harddegau.
鈥淒wi wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, iselder ac ychydig o orbryder ers o鈥檔 i tua 16 oed," meddai.
鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 16, oedd profi鈥檙 teimladau 'ma yn eitha' confusing.
鈥淒wi wedi dechrau dysgu sut i ymdopi hefo鈥檙 peth. Ma' saith mlynedd yn lot o amser ond mae wedi rhoi lot o amser i fi allu deall fy nheimladau a be' sy鈥檔 helpu fi鈥檔 bersonol.鈥
Mae siarad, ymarfer corff a meddyginiaeth yn rhai o鈥檙 pethau sydd wedi helpu Elen dros y blynyddoedd.
Er hyn, mae hi鈥檔 rhwystredig nad ydi hi wedi cael y dewis i gael cymorth yn y Gymraeg.
鈥淵n y brifysgol mi nes i drio sesiynau cymorth iechyd meddwl.
"Yn bennaf roeddwn i eisiau sesiynau yn y Gymraeg ond doedd y brifysgol ddim yn cynnig y cymorth yna.
"Roedd hynny wir yn rhwystredig i fi fel rhywun sy鈥檔 iaith gyntaf Cymraeg.鈥
Beth yw'r ffigyrau?
Mae cais rhyddid gwybodaeth i鈥檙 saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos faint o gwnselwyr sydd yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg, gyda鈥檜 sgiliau yn amrywio o fod yn sylfaenol i rugl.
Mae鈥檙 ffigyrau yn dangos mai dim ond un sydd ym mwrdd iechyd y gogledd, dau ym mwrdd iechyd Bae Abertawe a phedwar ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Mae鈥檙 niferoedd ychydig yn uwch ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, Powys a Chwm Taf Morgannwg a dim cwnselwyr o gwbl o ran y Gymraeg yng Nghaerdydd a鈥檙 Fro.
Aneurin Bevan - 4
Bae Abertawe - 2
Betsi Cadwaladr - 1
Caerdydd a鈥檙 Fro - 0
Cwm Taf Morgannwg - 7
Hywel Dda - 7
Powys - 8
Mae Sara Mai, seicotherapydd sydd wedi gweithio yn y maes ers 15 mlynedd, yn credu bod rhai pobl yn ei gweld hi鈥榥 haws rhannu eu teimladau yn eu hiaith gyntaf.
鈥淒wi鈥檔 gweithio hefo cleientiaid ledled Cymru sydd yn stryglo i ffeindio cwnselwyr Cymraeg, ac wedi trio rhai Saesneg ond teimlo fel 鈥榙yn nhw methu bod yn vulnerable a rhannu be' fysan nhw鈥檔 licio yn eu hail iaith.鈥
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
Yn ddiweddar fe lansiodd elusen Mind Cymru ymgyrch newydd i dynnu sylw at y gefnogaeth maen nhw鈥檔 ei gynnig yn y Gymraeg.
O鈥檙 hanner miliwn o bobl aeth ati i chwilio am gymorth ar-lein ganddyn nhw y llynedd, roedd tua un o bob 10 yn chwilio am gymorth yn y Gymraeg.
Yn 么l Nia Evans, rheolwr iechyd meddwl plant a phobl ifanc yr elusen: 鈥淢ae Mind Cymru yn awyddus iawn i gael mwy o ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
"Mae鈥檔 gallu bod yn anodd beth bynnag i ddechrau siarad am deimladau, deall beth sy'n digwydd a phrosesu be 鈥榙ach chi鈥檔 mynd trwyddo.
"Mae lot mwy i wneud yn si诺r bod y ddarpariaeth yna i unrhyw un sydd angen cymorth drwy鈥檙 Gymraeg."
Yn 么l yr elusen, ddylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw.
鈥淒ydi nifer y cwnselwyr sydd ymhob bwrdd iechyd ddim digon da," meddai Ms Evans.
"Mae yna ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru o ran yr hyn maen nhw eisiau ei wneud ond 鈥榙an ni angen gweld hyn yn cael ei drosglwyddo o fod yn bolis茂au a strategaethau i wasanaethau.鈥
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae unigolion ar eu mwyaf bregus pan maen nhw鈥檔 cael cymorth iechyd meddwl ac felly mae鈥檔 hanfodol iddynt allu siarad yn eu hiaith eu hunain bryd hynny.
Maen nhw鈥檔 dweud hefyd eu bod yn gweithio tuag at eu nod pum mlynedd o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.