大象传媒

Gwireddu breuddwyd wrth agor siop

Disgrifiad,

Agorodd Del Jones ei siop yng Nghricieth yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Pan gollodd Del Jones ei rhieni o fewn pum mis i'w gilydd fe gymerodd gam yn 么l ac edrych ar ei bywyd gwaith. Roedd ei thad wedi dweud wrthi yn ei ddyddiau olaf i beidio 芒 chymryd gormod o bwysau gwaith arni ei hun.

Ar y pryd roedd Del, sy'n wreiddiol o Garn Fadryn, yn rheolwr llety ac yn gyfrifol am d卯m o dros 120 o bobl. Yn fuan wedi'r cyfnod clo fe darodd geiriau ei thad dant gyda hi. Roedd y pwysau o gadw'r t卯m, yr ymwelwyr a hi ei hun yn ddiogel yn dechrau effeithio ar ei hiechyd ac felly fe benderfynodd adael ei swydd a mentro ar ddechrau ei busnes ei hun.

Y busnes cyntaf

Sefydlodd wasanaeth glanhau'n lleol. Ei nod oedd cynnig gwaith o safon i bobl leol a gofal cwsmer arbennig. At hynny, dywedodd fod helpu gyda phobl h欧n sy'n methu ymdopi yn rhan hyfryd o'r swydd a gallu rhoi amser iddyn nhw am baned, sgwrs a chadw cwmni yn ogystal 芒 glanhau.

Aeth y busnes o nerth i nerth ac mae nawr yn cyflogi pump o bobl.

Ond gwir freuddwyd Del oedd agor ei siop ei hun.

Gwireddu breuddwyd

Fe fuodd Del yn gweithio yn siop Portmeirion am tua 15 mlynedd ac yn ystod ei chyfnod yno un o'i hoff dasgau oedd gosod y ffenestri a threfnu'r nwyddau ar y silffoedd. Dywedodd fod "dod ar draws siop chwaethus yn llawn lliwiau" yn ei gwneud yn hapus a'i bod wedi "mwydro am flynyddoedd" am ei nod o agor siop rhyw ddiwrnod.

Ac un diwrnod wrth gerdded ar hyd stryd fawr Cricieth fe gododd y cyfle pan welodd arwydd mewn siop wag yn dweud ei bod ar gael i'w rhentu. Ac erbyn mis Tachwedd 2022 roedd gan Del oriadau i'r "lleoliad delfrydol".

Treuliodd bum mis yn cael trefn ar y siop ac fel agorodd Siop Del union flwyddyn yn 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Non, merch Del, yn gweithio gyda hi yn y siop

Dywedodd sawl un wrthi ei bod yn "cymryd gambl mawr" yn agor busnes siop yn yr hinsawdd economaidd gyfredol. Ond aeth Del ati gyda hyder gan ei bod wedi gwneud "blynyddoedd o waith ymchwil.

"Dw i'n teimlo bod Siop Del yn lot mwy na jyst siop," meddai, ac mae'n gobeithio gwneud y siop yn ganolbwynt i'r gymuned gan gynnig gweithdai i blant, perfformiadau cerddorol byw a gwasanaeth cofrestru am anrhegion priodas. Dywedodd ei bod yn gobeithio y daw'r siop "芒 phobl at ei gilydd, mae'n bwysig iawn i mi gael creu rhywbeth gwahanol."

Pynciau cysylltiedig