大象传媒

Pryder busnesau bach am gyfraith ailgylchu newydd

Steffan Butler
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheolau newydd yn 鈥渞hywbeth arall i boeni amdano," yn 么l Steffan Butler o fwyty Blas

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau bach yng Nghymru鈥檔 bryderus am yr heriau a ddaw yn sgil cyfraith newydd ar ailgylchu yn y gweithle.

O 6 Ebrill bydd yn rhaid i bob busnes, sefydliad sector gyhoeddus ac elusennau ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

Mae 'na alw am gefnogaeth a chyngor i fusnesau bach ddygymod 芒鈥檙 newid.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae鈥檙 mwyafrif o fusnesau鈥檔 gefnogol, a bydd eu hymateb i unrhyw dorri rheolau yn deg a rhesymol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

O 6 Ebrill bydd yn rhaid i bob busnes, sefydliad sector gyhoeddus ac elusennau ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu

Fel sy鈥檔 digwydd mewn cartrefi ar hyd y wlad, bydd busnesau yn gyfrifol am ddidoli a gwahanu gwastraff cyn eu casglu.

Er bod bwyty Blas yn Rhydaman eisoes yn gwahanu gwastraff, maen nhw鈥檔 bryderus am y pwysau ychwanegol 鈥 yn enwedig gan ei bod hi鈥檔 gyfnod heriol i'r sector lletygarwch ar hyn o bryd.

Dywedodd y rheolwr gweithredu, Steffan Butler: 鈥淚 ni, does 'na ddim gwahaniaeth oherwydd roedden ni鈥檔 gwneud y pethau yma鈥檔 barod, ond os ydych chi鈥檔 fusnes llai, yna efallai bydd yna gost ychwanegol achos bydd angen cael mwy o bins.

鈥淢ae hwn yn stress arall - rhywbeth arall i boeni amdano.

鈥淩wy鈥檔 gwybod bod y llywodraeth yn gorfod meddwl am yr amgylchedd, ond mae鈥檙 sector yma鈥檔 stryglan ar hyn o bryd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe allai busnesau sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith gael dirwy neu orchymyn llys

Mae gan Gymru, fel y DU, darged cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050 - sy'n golygu torri allyriadau t欧 gwydr yn ddramatig fel nad yw'r wlad yn cyfrannu ymhellach at gynhesu byd eang.

Yn 么l Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, Huw Irranca-Davies: 鈥淩y'n ni eisiau gwella ansawdd a maint yr hyn sy'n cael ei ailgylchu o weithleoedd.

"Mae'n gam pwysig tuag at gyrraedd gwastraff sero, lleihau ein allyriadau carbon a thaclo'r argyfwng hinsawdd."

Bydd gwaharddiad hefyd ar fusnesau rhag rhoi gwastraff bwyd i lawr draeniau, a gwaharddiad ar wastraff a gesglir ar wah芒n, sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi.

'Mae cost i bopeth'

Ond fe gaiff effaith ariannol ar fusnesau yn 么l Steffan Butler.

"Mae cost y biniau mawr tua 拢300 y mis - dyw nhw ddim yn rhad.

鈥淢ae鈥檙 rhyddhad ardrethi i fusnesau yn gostwng, a nawr mae hwn yn rywbeth arall i ni feddwl amdano - mae'n rhaid iddyn nhw helpu ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clare Dent: "Ry'n ni'n cefnogi ailgylchu, ond yn bryderus am ddiffyg cefnogaeth a chyfathrebu"

Mae Clare Dent, sy'n rhedeg oriel a chaffi yn Aberhonddu, yn cytuno.

"Mae gwahanu gwastraff yn golygu amser ychwanegol ac oblygiadau o ran cost i ni," meddai.

"Does dim modd cloi'r biniau chwaith, felly fe allai rhywun daflu unrhyw wastraff yno, fel cebab, ac fe allwn i gael dirwy pe bai Cyfoeth Naturiol Cymru'n ei weld a dweud ei fod wedi cael ei lygru."

Pwy sy'n plismona?

Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn sicrhau bod pob sector yn cydymffurfio 芒鈥檙 rheolau, a bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau nad yw鈥檙 rheolau ar roi gwastraff bwyd i lawr draeniau鈥檔 cael eu torri.

Ni fydd ysbytai yn gorfod cydymffurfio 芒鈥檙 newidiadau am ddwy flynedd arall.

Fe allai busnesau sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith gael dirwy neu orchymyn llys, ond mae Llywodraeth Cymru鈥檔 mynnu y byddan nhw鈥檔 ymateb yn deg i unrhyw un sy鈥檔 cael eu dal yn torri鈥檙 rheolau.

Dywedodd tua dwy ran o dair o fusnesau bach a chanolig eu bod nhw eisoes yn ailgylchu popeth roedden nhw'n gallu ei wneud, yn 么l arolwg gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Roedd bron i 80% o'r rhai atebodd yn cefnogi newid yn y gyfraith.

Pryder am 'ymarferoldeb'

Ond mae gan Ffederasiwn y Busnesau Bach bryderon am 鈥測marferoldeb鈥 y newidiadau.

Yn 么l Ben Cottam, pennaeth y ffederasiwn yng Nghymru, mae angen i鈥檙 llywodraeth a鈥檙 rheoleiddwyr 鈥渞oi cymaint o ymdrech i鈥檙 cyngor a鈥檙 gefnogaeth 芒鈥檙 hyn sy鈥檔 cael ei roi i鈥檙 orfodaeth鈥.

Ffynhonnell y llun, Bluestone

Mae parc gwyliau Bluestone yn Sir Benfro, a Phrifysgol Caerdydd ymhlith nifer fechan o lefydd ble mae gwastraff eisoes yn cael ei wahanu, a hynny cyn i鈥檙 gyfraith newid.

Yn 么l cyfarwyddwr cynaliadwyedd Bluestone, Marten Lewis, mae gosod biniau newydd yn y parc wedi golygu nad oes cymaint o gymysgu a llygru deunyddiau yn digwydd.

鈥淢ae鈥檙 deunyddiau cywir yn mynd i鈥檙 biniau cywir, sy鈥檔 golygu bod ansawdd y gwastraff ry鈥檔 ni鈥檔 ei anfon i鈥檞 ailgylchu wedi gwella gan fwy na hanner," meddai.

Yn 么l Huw Irranca-Davies mae 'na fantais ariannol hefyd.

鈥淕yda chost deunyddiau'n codi, bydd cadw deunyddiau ansawdd uchel mewn defnydd yn helpu'n economi a chefnogi'r gadwyn gyflenwi."