Beth fyddai cyrraedd yr Euros yn ei olygu i gefnogwyr Cymru?
- Cyhoeddwyd
Fe allai t卯m p锚l-droed merched Cymru fod ar fin creu hanes dros y ddwy g锚m nesaf.
Buddugoliaeth dros ddau gymal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yw'r hyn sydd ei angen.
Y wobr? Lle yn Euro 2025, a lle i d卯m y merched mewn twrnament mawr am y tro cyntaf erioed.
Bydd y dorf fwyaf erioed ar gyfer un o gemau cartref y merched yn bresennol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y cymal cyntaf nos Wener.
Capten Cymru Angharad James - sy'n chwarae i Reign FC yn Seattle yn yr Unol Daleithiau - ydy un o'r rheiny fydd yn allweddol dros y gemau nesaf.
N么l yn Sir Benfro, mae ganddi deulu balch iawn.
Dywedodd ei thad, Clive James, bod gwylio ei ferch a鈥檙 t卯m yn chwarae yn brofiad emosiynol i'r holl deulu.
鈥淩ydyn ni i gyd yn hynod o falch o' hi - mae lot o blood, sweat a tears wedi bod i gyrraedd fan hyn," meddai.
Dywedodd Clive fod y profiad o wylio Cymru gyda'i ferch yn gapten yn "ddirdynnol o'r dechrau i'r diwedd", ac y bydd ei deulu a'i ffrindiau yn gwylio nos Wener.
'Teimlad annisgrifiadwy'
Dywedodd hefyd bod ei fam - mam-gu Angharad, Rose, sy'n 80 oed ac erioed wedi methu g锚m gartref - yn edrych ymlaen yn arw at y g锚m.
"Gobeithio y bydd hi'n lwcus iddi ddydd Gwener," meddai Clive.
Dywedodd Jayden, brawd Angharad, ei fod yn "anghredadwy o hapus" pan ddaeth i wybod mai ei chwaer fyddai capten Cymru.
"Mae'n anghredadwy y gallai rhywun yn fy nheulu fod yn gapten Cymru," meddai.
Dywedodd ffrindiau Lily Woodham fod gwylio eu ffrind gorau yn cynrychioli Cymru yn "deimlad annisgrifiadwy".
Yn 么l Tara Male, un o ffrindiau agosaf Lily, mae ei gwylio'n symud ymlaen yn ei gyrfa yn "anhygoel".
鈥'Dwi wedi bod yn ffrindiau gyda Lily ers 19 mlynedd," meddai.
"Mae gwylio ei thrawsnewidiad o chwarae p锚l-droed ar iard yr ysgol i鈥檞 gwylio鈥檔 chwarae鈥檔 broffesiynol yn anhygoel.鈥
Mae cefnogwyr ledled Cymru yn edrych ymlaen at y g锚m, ac mae Cerian Jenkins o Aberystwyth yn un ohonyn nhw.
Mae hi wedi bod yn mynychu gemau ers 2021, a dywedodd fod ganddi "bob hyder" y gallan nhw gyrraedd Euro 2025.
"Dwi yn hyderus yn y t卯m i gyrraedd yr Euros," meddai.
"Hwn yw鈥檙 agosaf maen nhw wedi bod a dwi wir yn credu bod siawns gyda nhw.
"Maen nhw鈥檔 d卯m o fenywod anhygoel a dwi gyda pob ffydd ynddyn nhw."
Dywedodd hefyd fod bod yn rhan o'r Wal Goch wedi ei hysbrydoli i ddechrau chwarae'r g锚m ei hun.
"Mae'r t卯m yma mor bwysig i fi. Maen nhw wedi fy ysbrydoli ac wedi rhoi hyder i fi ddechrau chwarae p锚l-droed, ac rydw i mor ddiolchgar am hynny."
Rhywun sy鈥檔 gwybod sut brofiad yw hi i sgorio i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yw Gloria O鈥機onnell.
Sgoriodd yn y g锚m ryngwladol gyntaf erioed i'r merched, yn y dyddiau cyn i'r gamp gael ei chydnabod yn swyddogol gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru.
Fe ddigwyddodd y g锚m yn ar 么l i鈥檙 gwaharddiad ar b锚l-droed merched gael ei godi ar ddechrau鈥檙 1970au.
Gweriniaeth Iwerddon oedd yn fuddugol o 3-2 y diwrnod hwnnw - canlyniad y bydd Cymru'n awyddus i beidio efelychu nos Wener.
鈥淲naethon ni ddim chwarae ar gaeau fel maen nhw heddiw,鈥 meddai Gloria.
"Pe bawn i'n gallu cael fy mywyd eto byddwn yn fy elfen - mae'n wych."
Dywedodd Gloria fod "dim byd gwell na rhoi'r crys hwnnw ymlaen dros fy ngwlad".
Yn trafod y g锚m nos Wener, dywedodd ei bod yn ffyddiog y bydd y t卯m yn ennill.
"Rwy'n credu bod gennym ni'r hyn sydd ei angen. Rwy'n meddwl y bydd Jess [Fishlock] yn cael hat-trick," meddai Gloria.
"Os mai fi oedd yn y stafell newid, byddwn i'n codi eu calon nhw ac yn ymladd am bob p锚l.
Roedd Jayne 'Tosh' Angove 鈥 Hughes bellach 鈥 hefyd yn chwarae yn y 1970au, ac fe gafodd ei llysenw ar 么l ei hoff chwaraewr John Toshack.
Dywedodd ei bod yn cofio chwarae i Gymru fel y "dyddiau da", ac yn teimlo "rhan o'r daith".
Dywedodd oni bai am ei chyd-chwaraewyr arloesol, efallai na fyddai'r g锚m ble mae hi erbyn heddiw.
笔锚濒-诲谤辞别诲 merched 'ar i fyny'
Ers 2021 mae p锚l-droed merched yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 45% yn y nifer sy'n cymryd rhan.
Yn ystod tymor 23/24, roedd dros 15,898 o ferched a menywod yn cymryd rhan mewn p锚l-droed.
Mae'r gemau鈥檙 t卯m cenedlaethol wedi gweld 198% o gynnydd mewn torfeydd, gan dyfu o 1,800 i 5,370 ar gyfartaledd.
Mae gan Glwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Tondu United yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr dros 250 o ferched yn chwarae iddyn nhw, ac fe aethon nhw 芒 dros 300 o gefnogwyr i rownd gynderfynol Cymru fis diwethaf.
Dywedodd Joe Powton, cyfarwyddwr y clwb fod llwyddiant t卯m merched Cymru wedi cael effaith ar nifer y chwaraewyr yn y clwb.
"Dwi'n meddwl bod yr hen syniad ystrydebol na fydd merched yn mynd allan i chwarae yn y glaw a'r oerfel ddim yn wir," meddai.
"Fe fyddan nhw'n bendant yn gwneud."
Yn y clwb, mae'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn dweud eu bod yn hyderus y gall Cymru ennill nos Wener.
Mae Gwennan, Caitlin, Esmae ac Amelie i gyd yn dweud mai gallu chwarae gyda'u ffrindiau a sgorio goliau yw eu hoff ran o chwarae p锚l-droed.
Mae Jess Fishlock yn ffefryn mawr ganddynt, a s么n am Ffion Morgan hefyd.
Dywedon nhw fod gallu mynd i鈥檙 gemau yn wych, a'u bod yn ceisio codi calon y chwaraewyr fel rhan o'r dorf.